Roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o groesawu cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, i Gampws Gorseinon ac Ysgol Fusnes Plas Sgeti fel rhan o’i gyfres o ddosbarthiadau meistr poblogaidd ar reolaeth.
Cyflwynwyd y digwyddiad gan Ymgynghorydd Datblygu Busnes y Coleg, a chyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Stuart Davies.
Roedd anerchiad Carwyn yn cynnwys amrywiaeth o destunau ar arwain yn y sector cyhoeddus fel deall penderfynwyr a chynghorwyr, sut i ddenu sylw, sut i ofyn ac ateb cwestiynau, a sut i gyflwyno syniad a chael sylw yn gyflym.
“Roedd yn bleser gennym groesawu’r cyn Brif Weinidog i’r Coleg i roi mewnwelediad doniol, diddorol, llawn gwybodaeth i’r hyn mae’n ei gymryd i fod yn arweinydd heddiw,” meddai Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes.
“Fe gafodd y myfyrwyr a’r staff wybodaeth adderchog yn ystod y digwyddiad megis – beth sy’n gwneud arweinydd da, sut i wneud y penderfyniad cywir, sut i gael consensws mewn tîm, a pha mor bwysig yw cael cydbwysedd gwaith/bywyd iach.”
Ariennir dosbarthiadau meistr rheolaeth Coleg Gŵyr Abertawe trwy Raglen Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) Llywodraeth Cymru, menter Cymru-gyfan gwerth £970,000 sydd â’r nod o gefnogi datblygiad y gweithlu ôl-16.
Mae siaradwyr blaenorol wedi cynnwys James Averdieck (Gü/The Coconut Collaborative), Melissa Sterry (Bionic City), Garrett Emmerson (cyn Brif Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Ambiwlans Llundain), Michael Pawlyn (pensaer Prosiect Eden), a Charlie Luxton (dylunydd pensaernïol/cyflwynydd).
“Rydyn ni’n ddiolchgar am y cyfle i gynnig y dosbarthiadau meistr hyn trwy KTP,” ychwanegodd Paul. “Nid yn unig maen nhw wedi rhoi cyfle i’n staff a’n myfyrwyr glywed arweinwyr allweddol o fyd diwydiant a’r sector cyhoeddus ond hefyd, trwy ddod â’r byd academaidd a’r byd busnes ynghyd, maen nhw wedi rhoi modd i ni ganolbwyntio ar sectorau blaenoriaeth Sgiliau Cymru megis adeiladu, digidol, iechyd a gwyddoniaeth. Diolch i bob un o’n siaradwyr am ddarparu’r fath ysbrydoliaeth.”