Skip to main content
 

Cyfnod newydd i Beirianneg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi dau benodiad newydd yn ei adran Peirianneg.

Rhys Thomas yw Rheolwr Maes Dysgu newydd yr adran, sy’n cynnwys peirianneg fecanyddol, peirianneg electronig, cerbydau modur, chwaraeon moduro, a weldio.

Yn ymuno ag ef mae Maria Francis-Emanuel fel y Rheolwr Maes Dysgu Cynorthwyol newydd. Fe wnaeth y ddau ddechrau yn eu swyddi ym mis Awst ac mae ganddynt gynlluniau cyffrous iawn ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Cyvchwynodd Rhys ei yrfa fel weldiwr/ffabrigwr, gan gwblhau prentisiaeth pedair blynedd ar ôl yr ysgol a gweithio wedyn yn y diwydiant am ddegawd. Un rhan o’i rôl oedd hyfforddi prentisiaid, a ysgogodd gariad at addysgu.

Ar ôl ennill ei benodiad addysgu cyntaf fel hyfforddwr weldio yng Ngrŵp NPTC, aeth ymlaen i gwblhau rhagor o gymwysterau gan gynnwys Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, dyfarniad Aseswr, Tystysgrif Genedlaethol Uwch, a Phrentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Fecanyddol a Dylunio Diwydiannol. Yn ogystal, cwblhaodd hyfforddiant mewn argraffu 3D, roboteg, a rheolwyr rhesymeg rhaglenadwy (PLCs). 

Bydd profiad Rhys fel myfyriwr a gweithiwr mewn addysg a diwydiant yn ei baratoi’n dda ar gyfer y llwybr sydd o’i flaen yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

“Heb os dwi’n teimlo mai ffrwyth addysg bellach ydw i ac mae hynny wedi fy annog i fabwysiadu athroniaeth gadarn o ddysgu gydol oes,” meddai Rhys.

“Yn fy mhenodiad newydd fel Rheolwr Maes Dysgu Peirianneg, fy mlaenoriaeth fydd sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar y dysgwr a’n bod yn paratoi ein dysgwyr i fodloni gofynion y sector sy’n datblygu drwy’r amser trwy alinio ein cwricwlwm â gofynion diwydiant lleol.

“Bydd hyn yn cynnwys darparu llwybr clir i gyflogaeth a phwysleisio pwysigrwydd gwelliant a datblygiad parhaus fel ein darpariaeth addysg uwch gynyddol - cyrsiau Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol uwch a Phrentisiaethau Gradd.” 

Mae gan Maria dros 20 mlynedd o brofiad mewn addysg bellach, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi meithrin cysylltiadau ardderchog o fewn y sector moduro. Dechreuodd ei gyrfa gyda phrentisiaeth cerbydau modur yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, lle dechreuodd ei gyrfa addysgu wedyn.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi gweithio’n agos gyda’r tîm dysgu seiliedig ar waith ac aseswyr i sicrhau bod dysgwyr yn diwallu’r safonau trwyadl sy’n ofynnol gan y diwydiant, ac yn cael profiad gwerthfawr yn y byd go iawn.

“Mae gen i ymrwymiad cryf i alinio darpariaeth y cwricwlwm ag anghenion diwydiant, gan gefnogi cyfnod pontio’r dysgwyr o addysg i gyflogaeth” meddai Maria. “Yn fy rôl newydd fel Rheolwr Maes Dysgu Cynorthwyol, bydda i’n canolbwyntio ar feithrin a chynnal cysylltiadau cadarn â gweithwyr proffesiynol diwydiant, cwmnïau moduro, a chwmnïau peirianneg. Wrth edrych ymlaen, fy nod yw parhau i gynyddu cysylltiadau yn y diwydiant peirianneg a datblygu rhagor o raglenni galwedigaethol blaengar sydd nid yn unig yn bodloni gofynion cyfredol y sector ond gofynion gweithlu’r dyfodol hefyd.”

“Dwi wrth fy modd o groesawu Rhys i Goleg Gŵyr Abertawe,” meddai’r Pennaeth Kelly Fountain. “Ac mae Maria wedi bod yn rhan annatod o’n hadran cerbydau modur am flynyddoedd lawer, felly bydd eu profiad a’u gwybodaeth gyfunol o’r sector, ynghyd â’u dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, yn gaffaeliad gwirioneddol i’r Coleg.

“Bydd yna gyfleoedd cyffrous dros ben i’r Coleg yn y blynyddoedd nesaf yn y sector peirianneg lleol, yn benodol o ran Bargen Ddinesig Bae Abertawe a’r Porthladd Rhydd Celtaidd, a dwi’n edrych ymlaen at weld llwyddiant parhaus yr adran dan arweinyddiaeth Rhys a Maria.”