Yn ddiweddar, siaradodd Sarah King, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe, yng nghynhadledd flynyddol Menopos yn y Gweithle yng Nghaerdydd, dan arweiniad Policy Insight Wales.
Trefnwyd y gynhadledd fel bod sefydliadau yn gallu dysgu sut i gynorthwyo, gwerthfawrogi a chadw aelodau staff sy’n profi symptomau’r perimenopos a’r menopos yn well.
Yn sgil y canllawiau newydd a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mae’n hollbwysig nawr bod cyflogwyr yn gwneud addasiadau rhesymol i weithwyr sy’n mynd trwy’r menopos.
Rhoddodd Sarah gyflwyniad ar sut mae’r Coleg wedi gweithio’n galed i sicrhau ei fod yn codi ymwybyddiaeth o’r materion a sut mae’n cefnogi lles ei staff trwy amserlen o weithgareddau a gweithdai cyfannol drwy gydol y flwyddyn academaidd.
“Roedd yn gyfle gwych i allu siarad yn y gynhadledd,” meddai Sarah. “Mae’n Strategaeth Pobl allweddol i’r Coleg ac roeddwn i wrth fy modd yn rhannu’r effaith gadarnhaol y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ein staff. Mae hefyd wedi ein helpu i recriwtio a chadw staff ac yn sicrhau ein bod ni’n hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd.
“Rydyn ni’n falch iawn o’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud yn y maes hwn a’r gydnabyddiaeth a gawsom. Yng Ngwobrau CIPD y DU, enillon ni am y Fenter Les Orau, a chawson ni ein cydnabod hefyd fel cyflogwr arferion gorau yn yr adroddiad cynnydd 12-mis Shattering the silence about menopause gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Yn 2022, fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe lofnodi addewid yn y gweithle i ymrwymo i fod yn sefydliad ystyriol o’r menopos ac mae hefyd yn gyflogwr achrededig y menopos gyda Henpicked.
Yn ogystal, yn y dathliad diweddaraf o ragoriaeth ac arloesedd ym maes Adnoddau Dynol, cafodd Coleg Gŵyr Abertawe ei enwi yn Sefydliad Sector Cyhoeddus y Flwyddyn yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Prydain 2024.