Mae Daisy Cavendish, a lwyddodd i sicrhau pedwar A* yn dathlu Diwrnod Canlyniadau trwy fyfyrio ar y cymorth a dderbyniodd yn ystod ei hamser yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Sicrhaodd A* mewn Cemeg, Bioleg, Mathemateg a Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru, a bydd yn mynd i Brifysgol Caerwysg i astudio Meddygaeth, yn dilyn cyfnod fel un o fyfyrwyr Rhaglen Baratoi Meddygon, Deintyddion a Milfeddygon (MDM) Coleg Gŵyr Abertawe.
C: Pa gymorth sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe?
Derbyniais y rhan helaeth o gymorth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe trwy’r rhaglen Anrhydeddau a’r Rhaglen Baratoi Meddygon, Deintyddion a Milfeddygon. Fe wnaeth y mentrau hyn fy helpu i baratoi ar gyfer y cyfweliadau ac arholiadau angenrheidiol fel rhan o’r broses ymgeisio.
Rydw i wedi cael fy nghefnogi yn academaidd ac yn bersonol oherwydd natur agos-atoch y darlithwyr. Os oedd gen i bryderon, roeddwn i’n gallu siarad â nhw yn uniongyrchol a gofyn am eu help. Yn ogystal, ar lefel mwy personol, pe bai rhywbeth yn mynd o’i le, roeddwn nhw’n gefnogol iawn ac yn fy annog i archwilio dewisiadau positif eraill.
C: Sut mae mynychu’r Coleg yn dy baratoi ar ôl TGAU?
Yn fy marn i, mae mynd i’r coleg yn lle’r chweched dosbarth yn help mawr o ran hwyluso’r broses bontio a hybu annibyniaeth.
Yn y coleg, mae gennych fwy o ryddid. Mae cymorth a chefnogaeth ar gael os oes eu hangen arnoch, ond mae gennych ychydig mwy o ryddid, ac mae’n braf gwisgo eich dillad eich hun!
C: Sut gwnaeth Coleg Gŵyr Abertawe dy helpu di ar hyd dy lwybr i’r brifysgol?
Ces i lawer o gymorth gan yr Adran Fioleg, sy’n rhedeg y rhaglen Meddygon, Deintyddion a Milfeddygon. Roedd Emma Smith, arweinydd Rhydgrawnt ac Anrhydeddau CGA hefyd yn help mawr.
Yn wreiddiol, Prifysgol Caergrawnt oedd fy mhrif ddewis, a ches fy ngwahodd i gyfweliad yno ar ôl derbyn cymorth gan Goleg Gŵyr Abertawe.
Ond ar ôl ymweld â Chaerwysg, penderfynais ei fod ddewis gwell oherwydd rydw i’n hoff iawn o deimlo'n rhan o gymuned, ac mae'r ardal o amgylch Caerwysg yn debyg iawn i ble rwy'n byw oherwydd fy mod yn eithaf gwledig. Mae'r cwrs yn anhygoel hefyd.
C: Pam ddylai darpar fyfyrwyr ddewis Coleg Gŵyr Abertawe?
Mae ansawdd yr addysgu a’r dysgu yn wych ac mae’r darlithwyr yn sicrhau eich bod yn gweithio tuag at y canlyniadau gorau posib.
Mae hefyd yn braf iawn gweld llawer o bobl o gefndiroedd gwahanol yn hytrach na’r un hen wynebau yn yr ysgol.
Mae amrywiaeth eang o gyrsiau ar gael yn y Coleg, tua 40 cwrs Safon Uwch ac ystod o lwybrau galwedigaethol a phrentisiaethau.
Mae cyfleusterau’r Coleg yn hollol wych. Rwy’n dwli ar y llyfrgell, gallwn i dreulio bob awr o’r dydd yno. Maw’r mannau tawel hefyd yn ddefnyddiol os ydych chi am weithio mewn tawelwch llwyr, ac mae’r cyfrifiaduron a’r argraffwyr yn gwneud pethau yn haws, yn enwedig ar gyfer myfyrwyr gwledig fel fi.
Os ydych chi’n ystyried astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ewch amdani. Dyma un o’r dewisiadau gorau y gwnes i erioed. Yn enwedig oherwydd fy mod yn astudio cyrsiau gwyddonol, mae’r offer a’r cyfleusterau yma yn llawer gwell na’r rhai a geir mewn ysgolion yn Abertawe. Mae llawer mwy o gyfleoedd ar gael i fufurwur sy’n cymryd rhan yn rhaglen Anrhydeddau CGA a’r Rhaglen Baratoi MDM.
***
Mae Rhaglen Anrhydeddau CGA yn darparu pecyn cymorth academaidd i ddysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe ar gyfer gwneud ceisiadau prifysgol. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys: tiwtorialau meddwl yn feirniadol wythnosol; cymryd rhan mewn Academi Seren Llywodraeth Cymru (y Coleg yw Arweinydd Hwb y Rhaglen); paratoi ar gyfer Rhydychen a Chaergrawnt drwy diwtorialau ac ymweliadau â phrifysgolion; dosbarthiadau meistr pwnc benodol; ffug gyfweliadau a phrofion derbyn yn ogystal â help i gwblhau datganiadau personol. Gall Rhaglen MDM y Coleg hefyd helpu i hwyluso cyfleoedd profiad gwaith.
Gyda mwy nag 80 aelod o staff yn ymrwymedig i gymorth myfyrwyr, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn sicrhau bod pob dysgwr Safon Uwch a galwedigaethol yn derbyn cymorth gyda’u hastudiaethau, eu hanghenion personol a’u lles.
Mae gan bob myfyriwr fynediad at hyfforddwyr cynnydd, hyfforddwyr bugeiliol a thiwtoriaid personol, ac mae llawer o ddarlithwyr yn treulio amser gyda dysgwyr y tu allan i wersi rheolaidd i'w cadw ar y trywydd iawn. Gall myfyrwyr hefyd gael mynediad at gefnogaeth a chymorth ariannol.
I gael rhagor o wybodaeth am yr holl gyrsiau a gynigir yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ewch i: https://www.gcs.ac.uk/school-leavers