Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi penodiad James Donaldson fel y Dirprwy Bennaeth Profiad y Dysgwr a Chynhwysiant newydd.
Mae James, a ymunodd â’r Coleg ar ddechrau’r mis, yn dod â dros 12 mlynedd o brofiad fel uwch arweinydd mewn cymorth myfyrwyr, profiad y dysgwr, diogelu a chynorthwyo dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gan sicrhau cyfnod pontio llwyddiannus o’r ysgol i’r Coleg. Yn ogystal, mae ganddo hanes cryf o ysgogi newid a gwella canlyniadau myfyrwyr.
Yn ei rôl newydd, bydd James yn goruchwylio profiad y dysgwr, cynhwysiant, a mentrau strategol i wella ymgysylltiad myfyrwyr a gwasanaethau cymorth ar draws y Coleg.
Cyn ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe, bu Dean yn Bennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, lle bu’n arwain sawl menter, gan gynnwys Cynllun Braenaru ADY, porth mynediad digidol hollol ddwyieithog ar gyfer rhieni a gweithwyr proffesiynol i gynorthwyo dysgwyr ag ADY. Bu hefyd yn arwain y gwaith o greu Undeb Myfyrwyr newydd a chyflwyno prosiectau amrywiol megis Bot Profiad y Myfyriwr i wella ymgyslltiad a lles myfyrwyr.
Oherwydd cyfraniadau James i’r sector addysg mae wedi ennill nifer o anrhydeddau, gan gynnwys Gwobr AB TES am Gymorth Rhagorol i Ddysgwyr, Gwobr NASEN am Ddarpariaeth ADY Ôl-16 Orau yn y DU, a Gwobr Arweinydd y Flwyddyn NAMSS. Mae ei arweinyddiaeth ym meysydd diogelu a phrofiad y myfyriwr wedi cael ei graddio’n rhagorol yn gyson mewn arolygiadau.
Ac yntau wrth ei fodd o fod yn rhan o gymuned y Coleg, dywedodd James: “Dwi’n gyffrous i ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm anhygoel yma er mwyn parhau i gynorthwyo dysgwyr ar eu taith a sicrhau bod cynhwysiant wrth wraidd popeth a wnawn."
Ychwanegodd Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: “Mae’n bleser gennym groesawu James i’n tîm o arweinwyr gweithredol fel y Dirprwy Bennaeth, Profiad y Dysgwr a Chynhwysiant newydd. Gyda’i arbenigedd helaeth a’i hanes o wella profiad y dysgwr, mae James yn mynd i wneud cyfraniad sylweddol a chadarnhaol i lwyddiant parhaus y Coleg.
"Mae’r rôl newydd hon yn tanlinellu’r pwysigrwydd strategol rydyn ni’n ei osod ar ein dysgwyr i lwyddiant y Coleg yn y pen draw a bydd yn chwarae rôl allweddol wrth fwrw ymlaen â’r uchelgeisiau a nodwyd yn ein strategaeth Coleg newydd. Mae angerdd James dros sicrhau cynhwysiant a hyrwyddo lles myfyrwyr yn mynd law yn llaw â’n cyfeiriad strategol. Dwi’n ffyddiog y bydd James yn gwneud cyfraniad sylweddol a chadarnhaol.”