Mae adran Marchnata a Chyfathrebu Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill gwobr Arian yn y categori Cyfryngau Cymdeithasol ac Effaith Digidol yn Seremoni Wobrwyo Rhwydwaith Marchnata Colegau Fe First 2024.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan y Rhwydwaith Marchnata Colegau a gwahoddwyd cannoedd o weithwyr proffesiynol y diwydiant i ddod ynghyd i ddathlu rhagoriaeth mewn marchnata Addysg Bellach ledled y DU.
Cafodd y digwyddiad cenedlaethol clodfawr hwn ei gynnal yn y Crowne Plaza yng Nghanolfan Birmingham. Dyma’r unig ddigwyddiad blynyddol sy’n cael ei gynnal yn unswydd i ddathlu marchnata ym maes addysg bellach, ac mae’n gyfle i arddangos ymdrechion penigamp colegau a dosbarthiadau chweched dosbarth ledled y wlad.
Enillodd y Coleg wobr am ei ymgyrch recriwtio ymadawyr ysgol yn ystod yr haf. Bwriad yr ymgyrch oedd rhoi hwb i gyfraddau cofrestru a chynyddu niferoedd myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Roedd yr ymgyrch hon yn hybu ac yn adlewyrchu cynllun strategol y Coleg, ac roedd ei amcanion yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth, ennyn diddordeb a gwella enw da’r Coleg ymhellach.
“Rwy’n falch iawn o’n tîm Marchnata a Chyfathrebu am ennill gwobr yn Seremoni Wobrwyo Fe First. Mae'r cyflawniad hwn yn cydnabod creadigrwydd ac ymroddiad ein tîm Marchnata a Chyfathrebu ar raddfa genedlaethol. Mae’r ymgyrch aml-ddimensiwn hon wedi cael effaith gadarnhaol ar ein cyfraddau cofrestru, gan wella enw da ein sefydliad.”, meddai Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe.
Wrth siarad am y wobr, dywedodd Marie Szymonski, Rheolwr Marchnata a Derbyn: “Mae derbyn y wobr hon am ein hymgyrch farchnata effeithiol yn wych, ac mae’n adlewyrchiad o arbenigedd ac ymroddiad ein tîm gwych. Mae eu hymdrechion di-baid a’u creadigrwydd wedi talu ar ei ganfed, ac rydw i’n falch iawn o’u llongyfarch ar y cyflawniad haeddiannol hwn."
Roedd yr ymgyrch hwn yn brosiect integredig aml-ddimensiwn cwbl ddwyieithog a oedd yn cynnwys cyfuniad o weithgarwch ar-lein ac all-lein. Roedd y gwaith yn cynnwys ymgyrchoedd digidol am ddim ac â thâl ar Facebook, Instagram, Twitter, TikTok, Snapchat, Teledu a Spotify. Hefyd, fel rhan o’r ymgyrch, fe wnaeth staff ymgymryd â gwaith hysbysebu allanol (gan gynnwys hysbysfyrddau, cefnau bysiau, sgriniau digidol), cwblhau gwaith cysylltiadau cyhoeddus, creu fideos, creu gwaith ar gyfer y radio, mynychu nosweithiau agored, creu canllaw llai ar gyfer ymadawyr ysgol a mynychu digwyddiadau eraill i wella ymwybyddiaeth brand. Dyma ambell enghraifft i’r digwyddiadau a fynychwyd: Krazy Races yng nghanol Dinas Abertawe, lle’r oedd dros 15,000 o bobl yn bresennol, menter Bws Mawr Melyn y Coleg, lle ymwelwyd ag ysgolion uwchradd yn Abertawe, ac fe fynychodd yr adran Comicon a Chynhadledd Gemau Abertawe yn ogystal.
Dywedodd Laura Blanco Alonso, Arbenigwr Marchnata Masnachol: “Rydyn ni wrth ein bodd i ennill y wobr hon. Roedd y digwyddiad yn wych a chawsom gyfle i ddathlu gwaith caled gweithwyr marchnata proffesiynol yn y sector AB. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd creu ymgyrchoedd aml-sianel dwyieithog crefftus, gan integreiddio dulliau arloesol sy’n ymgysylltu â dysgwyr ac yn sicrhau effaith fesuradwy. Mae tîm marchnata’r Coleg - saith aelod o staff - yn cyflawni gwaith anhygoel o fewn diwydiant cymhleth a phrysur iawn, ac maent yn gorfod cyrraedd nifer o gynulleidfaoedd a chadw at gyllidebau llym.”
(I weld y rhestr lawn o gategorïau gwobrau ac enillwyr, cliciwch yma)
Defnyddiodd yr ymgyrch slogan “Barod Amdani” y Coleg. Mae’r cysyniad yma yn tynnu sylw at y ffaith mai Coleg Gŵyr Abertawe yw’r meincnod ar gyfer llwyddiant myfyrwyr o ran eu darpar lwybrau. Yn ogystal, fe wnaeth yr ymgyrch son am Gwarant Coleg Gŵyr Abertawe. Rhennir y slogan “Barod Amdani” yn 2 rhan (Byddwch yn Barod / Barod Amdani), gan amlinellu themâu sy’n benodol i ddyddiadau pwysig yn ystod y calendr academaidd a chynnig gwybodaeth allweddol i gynulleidfaoedd penodol.
Un o agweddau allweddol ar yr Ymgyrch Recriwtio Ymadawyr Ysgol 23/24 yn ystod yr Haf oedd y Bws Mawr Melyn, sef strategaeth aml-sianel ar ffurf bws ysgol melyn Americanaidd. Fae wnaeth y bws ymweld ag ysgolion uwchradd yn Abertawe i gynnig cynnwys ysgogol. Roedd hefyd yn gyfle i feithrin partneriaethau â chwmnïau megis Wales Online a gorsaf radio The Wave. Fe wnaeth y dull arloesol hwn hwyluso’r broses o ryngweithio yn uniongyrchol â darpar fyfyrwyr, rhoi hwb i welededd ein brand, meithrin cysylltiadau cymunedol a chynhyrchu adborth.
Fe gyflawnodd yr ymgyrch waith gwych, gan arwain at nifer cynyddol o gofrestriadau a wnaeth rhagori ar feincnodau’r diwydiant o ran metrigau allweddol. Hefyd, roedd gan yr ymgyrch gyfradd clicio o 7.75% i wefan y Coleg, sy’n llawer uwch na chyfradd y diwydiant (0.90%). Mae hyn yn esiampl o sut y gwnaeth yr ymgyrch gynyddu ymwybyddiaeth, ennyn diddordeb a chynyddu ceisiadau. Fe wnaeth targedu strategol, cynnwys deniadol, a sianeli marchnata amrywiol arwain at gynnydd cadarn mewn ymwybyddiaeth a lefel diddordeb ymhlith ymadawyr ysgol, ac fe wellodd enw da'r sefydliad ymhellach.