Skip to main content
Canlyniadau Safon Uwch a Galwedigaethol L3 Coleg Gŵyr Abertawe

Canlyniadau Safon Uwch a Galwedigaethol L3 Coleg Gŵyr Abertawe 2024

Canlyniadau Safon Uwch a Galwedigaethol L3 Coleg Gŵyr Abertawe

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o nodi blwyddyn arall o gyflawniadau anhygoel, wrth i fyfyrwyr sicrhau canlyniadau Safon Uwch a Galwedigaethol Lefel 3 da iawn ar gyfer 2024.

Eleni, cynyddwyd y gyfradd basio ar gyfer Safon Uwch yn y Coleg i 99%, gyda 1,164 o gofrestriadau arholiadau unigol. Mae’r canlyniad hwn yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru sef 97.4%, sy’n tanlinellu ymrwymiad y Coleg i ragoriaeth academaidd. Roedd 33% o’r graddau hyn yn raddau A*-A, eto yn uwch na chyfartaledd ceneldaethol Cymru sef 29.9%. Roedd 60% yn raddau A*-B ac 84% yn raddau A*-C. Mae hyn yn adlewyrchiad o safonau cyflawni uchel y Coleg.

Y gyfradd basio gyffredinol ar gyfer Safon UG eleni yw 95%, sydd eto yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru sef 90.2%. Roedd 72% o’r graddau hyn yn raddau A-C a 51% ohonynt yn raddau A-B. Roedd 27% o’r graddau a ddyfarnwyd yn raddau A, o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol sef 22.5%, sy’n tanlinellu perfformiad cryf y Coleg ymhellach.

Mae canlyniadau galwedigaethol y Coleg yn gryf iawn eto eleni ac maent wedi cynyddu. Y gyfradd basio yw 99% ar draws cyrsiau Diploma Estynedig Lefel 3. Ymhlith y perfformwyr gorau, sicrhaodd 37% o fyfyrwyr o leiaf un rhagoriaeth a sicrhaodd 10% o ddysgwyr Rhagoriaeth Uchaf.

Mae’r canlyniadau yma yn amlygu ymrwymiad y Coleg i ddarparu addysg alwedigaethol o ansawdd uchel, gan sicrhau bod ein dysgwyr yn cyflawni llwyddiant a safonau uchel. 

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r canlyniadau hyn, ac maen yn adlewyrchiad gwirioneddol o waith ac ymrwymiad ein dysgwyr yn ystod eu cyfnod yn y Coleg,” meddai’r Pennaeth, Kelly Fountain. “Yn ogystal, mae’r canlyniadau yn gydnabyddiaeth o’n staff sy’n cefnogi ein dysgwyr yn ddiflino yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

“Rydyn ni’n hapus iawn ein bod wedi cynnal cyfraddau pasio cyffredinol uchel iawn ar gyfer Safon Uwch a Safon UG am flwyddyn arall. 

“Yn ogystal, mae ein myfyrwyr galwedigaethol wedi sicrhau canlyniadau rhagorol, yn enwedig ym meysydd Echwaraeon, Celfyddydau Creadigol a Pherfformio, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Busnes, Peirianneg a Gofal Cymdeithasol.”

“Gobeithiaf fod pawb wedi derbyn y canlyniadau roedden nhw’n eu disgwyl fel eu bod yn gallu symud ymlaen i’w cam nesaf, ond, os na wnaethoch chi, peidiwch â phoeni. Rydyn ni yma i helpu. Dewch i gael sgwrs â ni - mae gennym staff ymroddedig sy’n cynnig cymorth ac arweiniad personol i ddysgwyr. 

“Er enghraifft, rydyn ni’n cynnig cyrsiau Safon uwch mewn pynciau megis Echwaraeon, Busnes, Cyfrifeg, Gwyddoniaeth a Chwaraeon, ac rydyn ni hefyd yn darparu cymorth cyflogadwyedd i fyfyrwyr sy’n dymuno symud ymlaen i fyd gwaith ar ôl eu hastudiaethau. Hefyd, mae gennym lawer o lwybrau prentisiaethau ar gael. 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn parhau i fod yn ymrwymedig i helpu pob myfyriwr i gyflawni ei botensial llawn a llwyddo ar ei daith unigol.” 

Ymhlith y myfyrwyr a gasglodd eu canlyniadau roedd:

Bethany Middleton: Mathemateg A, Bioleg A*, Cemeg A, CBC A
Eliza Roe: Mathemateg A, Bioleg A*, Cemeg A*, CBC A*
Daisy Cavendish: Mathemateg A*, Bioleg A*, Cemeg A*, CBC A*
Sophie Clarke: Mathemateg A*, Bioleg A*, Cemeg A*, CBC B
Shona Fallon: Hanes A, Y Gyfraith A, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth A*, Llenyddiaeth Saesneg A*
James Havard: Mathemateg A*, Cemeg A*, Ffiseg A*, CBC A
Rhys Honey-Jones: Hanes A, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth A*, Economeg A
Mia Jenkins: Bioleg A*, Busnes A*, Iechyd a Gofal Cymdeithasol A*, CBC B
Katie Lake: Mathemateg Bellach A*, Cemeg A*, Ffiseg A*, Mathemateg A*, CBC A
Morgan LeCrass: Cymdeithaseg A*, Astudiaethau Cyfryngau A*, Drama and Theatr A*, CBC A
Georgia Reid: Mathemateg A, Bioleg A*, Cemeg A*, CBC A*
Elliea Kiley: UAL L4 - Diploma Proffesiynol mewn Perfformio – Rhagoriaeth
Owain Oliver: UAL L4 - Diploma Proffesiynol mewn Perfformio – Rhagoriaeth
Lee Langford: UAL L4 - Diploma Proffesiynol mewn Perfformio – Rhagoriaeth
Pheobe Hall: Diploma Estynedig CBAC L3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ymarfer a Theori) A*A*A*

Llongyfarchiadau i’r dysgwyr isod ar ennill Rhagoriaeth Driphlyg*:

James Morgan, Curtis Woolley a Katie Beckett: Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC L3 mewn Echwaraeon
Kyle Rees: Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (Biofeddygol)
Gustas Dzasperas a Ciaran Goggin: Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC L3 mewn Cyfrifiadura

Fe wnaeth y myfyrwyr canlynol hefyd ennill Rhagoriaeth mewn cymwysterau galwedigaethol:

Angelika Skoczek: Gofal Plant L3
Ioan Jenkins, Lorna Muriungi, Kyle Treseder, Emily Turner, Rhian Wimmers, Rebecca Barnett: Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu
Chloe Eames, Ethan Fennell, Alisha Garland, Paige May, Daria Savchenko: Diploma L3 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnolegau Cyfryngau Creadigol
Abbie Dilulio, Alice Thompson, Alpha Sillah: Diploma L3 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnolegau Cyfryngau Creadigol
Edward Prosser, Charlotte Morgan, Amber Treharne, Charlie George, Zia Jenkins, Ayame Stevenson: Diploma L3 UAL mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
April Davies, Jessica Reen, George Roberts, Alana Rees, Merveille Ntumba, Lola Summer, Elis Burridge: Diploma Proffesiynol UAL L4 mewn Perfformio

Llongyfarchiadau i bawb a phob lwc i chi wrth i chi gynryd eich camau nesaf!