Roedd Ruby Millinship yn bwriadu dilyn gyrfa ym maes dylunio nes iddi ddechrau astudio Safon Uwch Cemeg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
“Penderfynais i astudio cemeg i roi cynnig arno a dweud y gwir, roedd y pwnc wedi ennyn fy chwilfrydedd ar lefel TGAU ac roeddwn i eisiau gwybod rhagor,” meddai Ruby. “O fewn y pythefnos cyntaf, roeddwn i wedi darganfod pwnc a ddaeth yn naturiol i mi. Roedd dysgu cemeg yn teimlo fel dysgu pwnc oedd eisoes yn fy meddwl; roedd e’n gwneud synnwyr. Cemeg organig daniodd fy niddordeb gynta’ ac yn fuan roeddwn i eisiau gwybod popeth amdani.”
I Ruby, y peth gorau am astudio pynciau STEM yw eu bod nhw’n rhoi hyder i chi holi ynghylch pethau – maen nhw’n gwneud i chi eisiau ‘gwybod pam.’
Erbyn hyn mae hi’n bwriadu astudio cemeg ar lefel uwch ac wedi cael cynnig lleoedd yn Warwig, Bryste a Chaerfaddon. Mae hi hefyd wedi cael cynnig gan Brifysgol Caerefrog i astudio cemeg, egwyddorion gwyrdd a phrosesau cynaliadwy.
Wedi hynny, mae Ruby yn gobeithio darganfod elfen o gemeg neu gemeg organig y bydd hi am barhau i ymchwilio iddi, o bosibl i lefel PhD a’r tu hwnt.
“Yn ddelfrydol, hoffwn i ganolbwyntio ar ynni, cynaliadwyedd ac ynni adnewyddadwy,” meddai. “Neu efallai wneud gwaith ymchwil arloesol i ddyfodol ein byd. Dwi wastad yn chwilio am ffyrdd o ddatrys popeth!”
Yn hanesyddol bu prinder myfyrwragedd ifanc sy’n mentro i ddiwydiannau STEM, ond mae’r llanw’n troi’n raddol yn hyn o beth.
“Fy nghyngor i yw ewch amdani!” meddai Ruby. “Mae mathemateg a gwyddoniaeth yn gallu teimlo’n frawychus ar y dechrau ond maen nhw’n fuddiol iawn. Mae cynifer o bobl wahanol yn dilyn llwybrau gyrfa gwahanol mewn pynciau STEM, ac felly bydd digon o opsiynau ar gael i chi yn y dyfodol. A pheidiwch â chael eich digalonni gan y geiriau gwyddonol hir, dydyn nhw ddim cynddrwg ag rydych chi’n feddwl!”
I Ruby, daeth ei chariad at gemeg o unman mae’n debyg ond mae hi mor falch ei bod wedi darganfod ei diddordeb angerddol mewn gwyddoniaeth.
“Dwi’n dod adref o’r Coleg ac yn ceisio egluro i fy rhieni yr holl bethau anhygoel dwi wedi’u dysgu yn fy ngwersi,” dan chwerthin. “Maen nhw wedi cael hen ddigon ohono fe nawr!”