Estynnwyd gwahoddiad yn ddiweddar i ysgolion lleol ddod i Goleg Gŵyr Abertawe i ddathlu lansio'r rhaglen HE+ ar gyfer 2015/16.
Yn dilyn gwahoddiad gan Brifysgol Caergrawnt, ac mewn cydweithrediad â'r brifysgol honno, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gweithredu fel "hyb" Consortiwm HE+ Abertawe, gan weithio gyda'r saith ysgol wladol chweched dosbarth yn yr ardal.
"Nod HE+ yw helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau academaidd a'u hysbrydoli nhw i anelu mor uchel â phosibl wrth ddewis prifysgolion,” dywedodd Tiwtor Rhydgrawnt y coleg Felicity Padley. "Mae myfyrwyr ar y rhaglen HE+, ac mae dros 250 ohonyn nhw ar hyn o bryd, yn mynychu dosbarthiadau ymestyn bob mis ar ôl coleg ar gynnwys academaidd ôl-faes llafur, ac maen nhw'n cael cyfle i wneud cais i ymweld â Phrifysgol Caergrawnt a'i cholegau cyfansoddol."
Ers 2013, mae 26 o fyfyrwyr wedi symud ymlaen o Goleg Gŵyr Abertawe i Rydychen a Chaergrawnt, ac mae bron 600 wedi gwneud cais llwyddiannus i brifysgolion gorau Russell Group yn y DU.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, mae consortiwm HE+ Abertawe yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiad o Raglen Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru. Mae Rhwydwaith Seren yn gyfres o hybiau rhanbarthol sy'n ceisio helpu myfyrwyr Blwyddyn 12 mwyaf galluog Cymru i gyflawni eu potensial academaidd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ysgolion a cholegau rannu arbenigedd a gweithio'n uniongyrchol â phrifysgolion mwyaf blaenllaw y DU.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae'r buddsoddiad hwn wedi cael ei ddefnyddio i brynu llyfrau i fyfyrwyr coleg a disgyblion ysgol sy'n rhaid sefyll profion gallu mewn pynciau fel meddygaeth ac economeg ar gyfer prifysgolion Rhydgrawnt a Russell Group.
Mae hefyd wedi cynnig modd i'r coleg brynu pum set - cyfanswm o 2000 o lyfrau - o gyfres 'Very Short Introductions' Gwasg Prifysgol Rhydychen. Gall myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe a disgyblion ysgol ddefnyddio'r llyfrau hyn sy'n cwmpasu ystod eang o bynciau gan gynnwys gwyddoniaeth, bywgraffiadau, hanes, llenyddiaeth ac athroniaeth.
"Diolch i'r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru a haelioni Gwasg Prifysgol Rhydychen a Blackwell Oxford, mae cannoedd o bobl ifanc ar draws ardal Abertawe yn gallu cael mynediad uniongyrchol i rai llyfrau gwych a fydd yn eu helpu wrth iddyn nhw symud ymlaen o addysg bellach i addysg uwch," ychwanega Felicity.
Ar hyn o bryd mae AU+ ar gael yng Nghymru i fyfyrwyr sy'n mynychu Coleg Gŵyr Abertawe neu un o'r ysgolion chweched dosbarth gwladol yn Ninas a Sir Abertawe yn unig.
DIWEDD
Nodiadau:
Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi hybiau ychwanegol dros y misoedd nesaf, gyda'r nod o sicrhau darpariaeth genedlaethol, gyda phob ysgol a choleg chweched dosbarth wedi'u cysylltu â rhwydwaith hyb erbyn dechrau'r flwyddyn academaidd 2016/17. I gael rhagor o wybodaeth am Rwydwaith Seren ewch i www.gov.wales/seren