Treuliodd grŵp o brentisiaid o'r Almaen dair wythnos yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar lle y cawson nhw gyfle gwerthfawr i ddysgu am y diwydiant electroneg a thechnoleg ddigidol yn Ne Cymru.
Fel rhan o'r ymweliad, aeth y myfyrwyr i ymweld ag amrywiaeth o gwmnïau sydd â chysylltiadau agos â'r coleg fel Elite Aerials, Zeta Alarm Systems, Trojan Electronics, BSC a TongFang Global.
“Trwy weld gweithdai, warysau a llinellau cydosod, roedden nhw'n gallu cymharu a chyferbynnu â sut mae pethau'n cael ei wneud nôl gartref yn Stuttgart,” meddai'r Arweinydd Cwricwlwm Steve Williams.
Yn ystod dosbarthiadau ar gampws Tycoch, cafodd y myfyrwyr dasgau gan gynnwys sodro, cymryd mesuriadau gydag osgilosgop, adeiladu byrddau cylched a chonsol gemau. Roedden nhw hefyd wedi astudio cydrannau teledu a'r gwahaniaeth rhwng analog a digidol.
Yn ystod un wers, cawson nhw lawlyfr gyda therminoleg Electroneg roedd rhaid iddyn nhw ei gyfieithu i'w hiaith eu hunain.
Ond roedd mwy i'r ymweliad na dim ond gwaith. Yn ystod amser rhydd, roedd Steve a'i gydweithwyr yn yr Adran Beirianneg wedi trefnu twrnamaint pêl-droed i'r prentisiaid a thaith i Benrhyn Gŵyr a Stadiwm Liberty.
“Roedden ni am i'n gwesteion ymlacio a mwynhau beth sydd gan Abertawe i'w gynnig," ychwanegodd Steve.
Roedd y daith gyfnewid hon yn bosibl diolch i gyllid gan y Brosiect Erasmus+, rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon, a thrwy gymorth Adran Ryngwladol Coleg Gŵyr Abertawe.
Mae staff a myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe yn edrych ymlaen at fynd i'r Almaen yn Ebrill 2016.