Mae Coleg Gŵyr Abertawe newydd gynnal rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar gyfer Peirianneg Fecanyddol (CAD).
Daeth myfyrwyr o bob cwr o Gymru i gampws Gorseinon ar 17 Mawrth, lle y cawson nhw dasgau ymarferol i'w cwblhau o dan lygad barcut panel o feirniaid o fyd addysg a diwydiant.
Roedd y gystadleuaeth wedi profi rhai o'r sgiliau sy'n hanfodol i fod yn ddylunydd CAD gan gynnwys modelu 3D, cynhyrchu cydosodiadau, cymhwyso defnyddiau a chreu lluniadau technegol 2D. Cafodd y myfyrwyr eu profi ar eu sgiliau TGCh, rhifedd a datrys problemau hefyd.
“Roedd y cystadleuwyr i gyd naill ai'n gweithio tuag at - neu newydd ennill - eu cymwysterau Lefel 3 a gofynnwyd iddynt wneud profion sgiliau penodol sy'n gysylltiedig â gofynion y sector,” dywedodd Coral Planas, Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer Technoleg Peirianneg.
Roedd y cystadleuwyr yn cynrychioli Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Sir Gâr, Grŵp CNPT, Coleg Llandrillo, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg y Cymoedd.
Yr enillwyr ar y diwrnod oedd Alex Dighton o Goleg y Cymoedd (Aur), Joseph Dickerson o Goleg Gŵyr Abertawe (Arian) a Rhys Samuel o Grŵp CNPT (Efydd).
“Cawson ni ddiwrnod gwych a hoffwn i ddiolch i bawb oedd wedi ein cefnogi ni,” ychwanegodd Coral. “Ein noddwyr ffantastig - TWI, Quartzelec, Express Metals a Mechatronics - a roddodd y gwobrau, Mike Westlake o Autodesk ac, wrth gwrs, y darlithwyr a chydlynwyr y gystadleuaeth Mark Row a Huw Issac.”
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnwys tua 30 o gystadlaethau sgiliau lleol, wedi'u noddi gan Lywodraeth Cymru a'u rhedeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau o dan arweiniad cyflogwyr. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ffurfio rhan o raglen Twf a Swyddi Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ac yn ceisio codi proffil sgiliau yng Nghymru.
Mae'r prosiect Creu Tîm Cymru yn cyflwyno ac yn hyrwyddo Cystadlaethau Sgiliau yng Nghymru ar ran y Rhwydwaith Hyrwyddwyr Sgiliau, sef grŵp o ddarparwyr hyfforddiant o bob cwr o Gymru sydd wedi ymrwymo i annog a chefnogi cystadleuwyr i gyflawni a llwyddo, wedi'i arwain a'i weinyddu gan Goleg Sir Gâr.