- Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn, rhan-amser, addysg uwch a galwedigaethol gan gynnig rhywbeth i bawb.
- Mae cyfleusterau gwych gennym! Yn ddiweddar rydym wedi cael ailddatblygiad gwerth £4 miliwn i du blaen Campws Tycoch sy’n cynnwys derbynfa, ystafell gyffredin a siop goffi Costa newydd! Yn fwy diweddar ar Gampws Gorseinon rydym yn lansio lle cymdeithasol gwerth £2 filiwn i fyfyrwyr a fydd yn gartref i le coffi Costa newydd gyda mynediad i Wi-Fi, sgriniau teledu a seddau ychwanegol ar gyfer hyd at 110 o fyfyrwyr.
- Rydym yn rhoi cymorth a chyngor ar bopeth o ddewisiadau cwrs i anghenion dysgu ychwanegol, cyllid a ffyrdd o fyw iach.
- Rydym yn cymryd rhan yn y gymuned drwy gefnogi mentrau a digwyddiadau lleol, er enghraifft, yn ddiweddar buom yn noddwr allweddol ar gyfer Pro Cymru, digwyddiad Taith Syrffio Pro 4 UKPSA.
- Rydym wedi gweld llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i wneud pethau anhygoel, fel y cyn-fyfyriwr arlwyo a lletygarwch Collette Gorvett. Mae Collette ar hyn o bryd yn gweithio yn The Ritz, Llundain ac yn ddiweddar roedd wedi cystadlu yn erbyn 19 o bobl eraill yng nghystadleuaeth y Gwasanaethau Bwyty yn EuroSkills Budapest 2018 - enillodd Fedaliwn Rhagoriaeth hefyd.
- Rydym yn credu bod amrywiaeth yn bwysig a drwy gydol y flwyddyn rydym yn dathlu hyn gyda digwyddiadau sy’n cefnogi Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, Wythnos Ffoaduriaid a llawer mwy gan gynnwys ffair amrywiaeth flynyddol i’n myfyrwyr gymryd rhan ynddi.
- Rydym yn cael canlyniadau gwych! Mae ein canlyniadau Safon Uwch 2018 wedi rhagori’n sylweddol ar gyfartaledd cenedlaethol Cymru gan 7% o ran graddau A*-C.
- Rydym yn cefnogi mentrau’r iaith Gymraeg ac yn annog ein staff a’n myfyrwyr i ddysgu trwy ddigwyddiadau, gweithgareddau a dewisiadau academaidd.
- Rydym yn helpu gyda chyflogadwyedd trwy ein rhaglen ‘Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol’ sy’n ceisio helpu pobl yn ardal Abertawe i chwilio am gyflogaeth newydd neu well.
- Rydym yn gofalu am ein staff ac yn ddiweddar rydym wedi arwyddo’r adduned cyflogwr i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl yn y gweithle trwy Amser i Newid Cymru.