Ymunodd Coleg Gŵyr Abertawe â'r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a Chyflogaeth Hyfforddiant (LLETS) a 96.4FM The Wave i ddathlu Wythnos Prentisiaid 2015.
Roedd y gohebydd crwydrol Claire Scott wedi treulio amser yn ymweld â phrentisiaid a chyflogwyr ar draws y ddinas i glywed am eu profiadau.
Y cyntaf ar ei rhestr oedd Academi Gwallt Ffordd y Brenin y coleg lle y cyfarfu Claire â'r prentis Matthew Roberts a'i gyflogwr Mary Halloran, perchennog Floyds Salon. Roedd y ddau wedi sôn am y berthynas waith wych sydd ganddynt â Choleg Gŵyr Abertawe a'r cymorth a gânt drwy'r broses brentisiaeth.
Ym Meithrinfa Ddydd Highgate yn Nhreforys, cafodd y Cyfarwyddwr Jane Lewis ei chynorthwyo gan y prentis Chloe a Claire ei hun i ddiddanu'r plant cyn-ysgol gydag un o straeon cyffrous Peppa Pinc.
Nes ymlaen yn yr wythnos, newidiodd y ffocws i'r Adran Beirianneg ar gampws Tycoch pan gyfarfu Claire â dwy fyfyrwraig sy'n brentisiaid, Lydia Moss ac Elizabeth Roberts, cyn symud ymlaen i'r DVLA yn Nhreforys a chyfweliad â'r prentis Luke Godrich a'i gyflogwr Emma Lewis.
Y tro yn y cynffon oedd bod rhaid i Claire roi cynnig ar y gweithgareddau ymarferol ei hun trwy gydol yr wythnos, gan weithio ochr yn ochr â'r prentisiaid - a bod mewn perygl o gael ei 'hurio' neu ei 'diswyddo' yn null Alan Sugar. Er iddi wneud yn eithriadol o dda wrth arddangos ei sgiliau torri gwallt ac adrodd stori, roedd rhaid i Claire gyfaddef ei bod wedi methu gyda'r bwrdd niwmateg yn yr Adran Beirianneg, yr unig dro iddi gael ei 'diswyddo' yn ystod yr wythnos.
Nod yr Wythnos Prentisiaid, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yw codi ymwybyddiaeth ymysg cyflogwyr o fanteision cyflogi prentisiaid. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc i wella eu sgiliau ac ennill a dysgu yr un pryd.