Mae grŵp o fyfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi addo aros yn dawel gan obeithio codi arian ar gyfer elusen leol.
Mae’r myfyrwyr yn ymateb i apêl ddiweddar am arian gan Gynllun Ceffylau a Merlod Cymunedol – neu CHAPS – sy’n darparu therapi adsefydlu drwy ddefnyddio ceffylau yn ardal Abertawe.
“Mae’r myfyrwyr wedi defnyddio CHAPS yn rheolaidd fel rhan o’u cwrs Academi Gwaith. Penderfynon nhw drefnu tawelwch noddedig, o’u pen a’u pastwn eu hunain, yn ystod trafodaeth yn eu gwers gyllid,” dywedodd y ddarlithwraig Emma Stephens. “Maen nhw’n teimlo’n wirioneddol angerddol dros CHAPS ac maen nhw wedi gweithio’n galed iawn i godi cymaint o arian ag y gallan nhw. Maen nhw bellach wedi addo aros yn dawel rhwng 10am a 3pm a bydd hynny yn dipyn o gamp!”
Oherwydd amgylchiadau anffodus mae prosiect CHAPS (a oruchwyliwyd gan Gyreniaid Cymru cyn hyn) yn wynebu cael ei gau. Ar hyn o bryd mae’r elusen yn parhau dim ond trwy ewyllys da staff di-dâl a gwirfoddolwyr ymroddedig.