Llongyfarchiadau i’r tîm Tai ar ennill gwobr Aseswr Pencampwr Cymraeg yn y Gwobrau Prentisiaethau Blynyddol ar y 6ed Chwefror 2023.
Tîm o staff ymroddedig, sy’n ymrwymo i’n cenhadaeth fel sefydliad i hybu a datblygu sgiliau Cymraeg dysgwyr ar bob lefel. Mae'r rheolwr tîm Lucy Bird yn hynod gefnogol ac yn eu hannog i adeiladu ar ethos dwyieithog y coleg.
Mae'r holl staff wedi mynychu sesiynau hyfforddi ar fewnosod y Gymraeg naill ai'n fewnol a gyda Sgiliaith, mae dau yn mynychu cyrsiau Cymraeg Gwaith i ddysgu Cymraeg. Maent yn rhoi cyfle i pob un o'u dysgwyr i gwblhau eu lefel briodol o Prentis Iaith.
Yn ddiweddar penodwyd aelod newydd o staff, Llŷr Ap Gruffydd trwy gyllid a dderbyniwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr astudio’n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd Llŷr yn cwblhau ei TAQA gyda Marie Allen a fydd yn cefnogi Llŷr i gwblhau ei gymhwyster yn y Gymraeg.
Mae'r ffaith bod y corff dyfarnu wedi cyfieithu adnoddau gyda grant gan Cymwysterau Cymru ac mae City and Guilds wedi paratoi'r holl ddogfennaeth yn Gymraeg yn eu galluogi i gynnig taith dwyieithog lawn.
Mae gan lawer o ddysgwyr sy'n astudio ar gyfer y cymwysterau Tai sgiliau iaith Gymraeg ac rydym yn eu cefnogi i ddilyn y cwrs gan ddefnyddio a datblygu'r sgiliau hyn yn eu sector a'u gweithle.