Mae'r tîm y tu ôl i Brosiect Enduro – dylunwyr a chynhyrchwyr y prototeip o'r beiciau mynydd lawr llethr pedair olwyn arbenigol - yn wynebu un o'u heriau mwyaf.
Yn dechrau am 12pm ar 17 Mehefin yn Antur Stiniog, Eryri, byddant yn gwneud ymgais i gael record byd newydd am feicio i lawr y nifer fwyaf o fetrau fertigol mewn 24 awr.
Dan arweinid rheolwr Prosiect Enduro, Calvin Williams, mae'r tîm sy'n ceisio cipio record y byd yn cynnwys yr athletwr Paralympaidd Nathan Stephens, y gyrrwr ceir rasio paraplegig Brian Roberts a Simon Powdrill o Loco Tuning. Bydd yr holl arian a godir o'r her 24 awr hon yn cael ei roi i Chwaraeon Anabledd Cymru.
Mae Prosiect Enduro yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Wedi'i reoli gan Calvin Williams, darlithydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, y brîff cychwynnol ar gyfer Prosiect Enduro oedd cynllunio a chynhyrchu dau brototeip ar gyfer beiciau mynydd lawr llethr pedair olwyn (model canolig a model elit) i'w defnyddio gan bobl anabl yn bennaf.
“Ein nod oedd creu cynnyrch sy'n addas ar gyfer amrywiaeth mor eang â phosib o ddefnyddwyr ac sydd wedi cael ei gynllunio o'r cychwyn drwy ddefnyddio technoleg sy'n gyfarwydd i'r diwydiant beicio mynydd,” dywedodd Calvin. “Mae'r beic wedi cael ei ddatblygu ar ôl ystyried adborth gan dros 40 o feicwyr yn amrywio o ran taldra a phwysau o 5tr i 6tr 2" ac o 50 i 120kg. Mae'r rhain yn cynnwys athletwyr paraplegig, trychedigion a beicwyr proffesiynol nad ydynt yn anabl."
Mae ymgais Prosiect Enduro i gael record y byd yn cael ei gefnogi gan Hope Technology, Renthal, Disability Sports Wales, Polaris Bikeware, Nukeproof Bikes a LOCO Tuning.
“Mae gennym ni dîm arbennig ac rydyn ni'n awyddus i gael record y byd newydd ar gyfer beiciau pedair olwyn sy'n well na'r record presennol ar gyfer beiciau dwy olwyn,” ychwanegodd Calvin.
Gallwch gyfrannu at Chwaraeon Anabledd Cymru yma: www.justgiving.com/disabilitysportwales
I fynegi diddordeb mewn prynu beic pedair olwyn, ewch i'r wefan: www.projectenduro.co.uk