Cafodd Tîm Adnoddau Dynol (AD) Coleg Gŵyr Abertawe eu hanrhydeddu â gwobr glodfawr ‘Menter Iechyd a Lles Gorau’r Sector Cyhoeddus/Trydydd Sector 2023’ yn ddiweddar gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).
Mae Gwobrau Rheoli Pobl CIPD ymhlith yr anrhydeddau mwyaf uchel eu bri a chystadleuol ym maes AD a rheoli pobl ac, eleni, Tîm AD a Lles Coleg Gŵyr Abertawe oedd yr enillwyr haeddiannol wrth gystadlu yn erbyn sefydliadau eraill ledled y DU.
Mae’r wobr hon yn adlewyrchiad o ymrwymiad y Coleg i les gweithwyr ac mae’n ffordd o gydnabod ein rhaglen iechyd a lles arloesol sydd wedi codi ymwybyddiaeth pobl o symptomau’r perimenopos a’r menopos a’r cymorth sydd ar gael i staff.
Mae'r tîm wedi bod yn brysur yn cynnal Caffi Menopos yn rheolaidd ynghyd â chynnig hyfforddiant ar sut i gefnogi staff sy’n mynd drwy perimenpops a’r menopos. Yn ogystal â hyn, maent wedi bod yn cynnig seminarau ar sut i reoli symptomau a chyfleoedd i staff gwrdd ag arbenigwyr menopos. Mae’r holl waith yma wedi cyfrannu at ennill Achrediad Menopos-gyfeillgar i’r Coleg.
Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ddigwyddiad bord gron ar fenopos gyda hyrwyddwyr menopos y Llywodraeth(Gweinidog Symudedd Cymdeithasol, Ieuenctid a Dilyniant, Caroline Nokes, Cadeirydd Pwyllgorau Menywod a Chydraddoldeb, Carolyn Harris, AS Dwyrain Abertawe a Helen Tomlinson, Hyrwyddwr Cyflogaeth Menopos) a chyflogwyr allweddol lleol yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti i drafod Menopos yn y gweithle. Mae staff a Myfyrwyr hefyd wedi cael cyfle i wisgo Menovest TM, sef dilledyn sy’n efelychu pyliau poeth.
Yn ogystal â hyn, mae staff wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn Menter Beilot gan Newson Health lle maent wedi bod yn derbyn cymorth a thriniaeth ddiduedd mewn perthynas â pherimenopos a’r menopos. Mae’r fenter fuddugol hon a gafodd ei chlodfori am ei chynwysoldeb a’i heffeithiolrwydd wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles staff y Coleg. Yn ôl un aelod o staff: “Mae’r cynllun wedi newid fy mywyd ac rwy’n teimlo’n llawer mwy gobeithiol am fy nyfodol o ganlyniad”.
Mae mentrau’r Coleg yn ymestyn y tu hwnt i’r menopos ac maent yn cwmpasu ystod eang o agweddau ar iechyd a lles, gan gynnwys rhaglenni ffitrwydd wythnosol, cymorth iechyd meddwl, gweithdai rheoli straen, ac maent oll yn medru cael eu cyrchu gan staff drwy’r porth pwrpasol.
Mewn arolwg staff diweddar, nododd 93% o’r cyfranogwyr bod y Coleg yn cefnogi eu hiechyd a’u lles mewn modd digonol. Mae’r adborth wedi bod yn ganologol iawn, gydag un aelod o staff yn nodi “Dw i erioed wedi gweithio mewn lle sy’n buddsoddi cymiant mewn iechyd. Mae yna rhywbeth at ddant pawb, o weithgareddau ffitrwydd i sesiynau celf. Maen nhw hefyd yn cynnig cwnsela a gwasanaeth ffisio i bobl sy’n dioddef o gyflyrau iechyd isorweddol neu faterion iechyd meddwl. Dw i’n teimlo’n lwcus iawn."
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig Diwrnodau Lles, lle anogir staff i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gweithdai a sesiynau gwybodaeth sy’n hyrwyddo iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
Mae mentrau eraill yn cynnwys y gwobrau gwasanaeth hir, sy’n cydnabod teyrngarwch staff, ynghyd â diwrnodau sy’n codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a chynwysoldeb LHDTC+. Yn ddiweddar, fe wnaeth y Coleg ennill Gwobr Efydd Stonewall ar gyfer cyflogwyr LHDTC+ cynhwysol a blaenllaw.
"Mae ein tîm AD wastad wedi bod yn ymrwymedig i les ein staff ac rydym yn cydnabod bod eu lles a’u hiechyd yn rhan hollbwysig o lwyddiant y Coleg," meddai Sarah King, Cyfarwyddwr AD
"Mae derbyn y wobr genedlaethol hon gan CIPD yn anrhydedd o’r mwyaf ac mae’n adlewyrchiad o waith caled ac ymroddiad parhaus ein Tîm AD a Lles."
Trwy feithrin diwylliant sy’n hybu cydnabyddiaeth, lles a chymorth, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi creu amgylchedd lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u hannog i wneud eu gorau glas.
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo ddisglair CIPD yn JW Marriott Grosvenor House, Park Lane, Llundain. Cynrychiolwyd y Coleg gan aelodau allweddol o’r tîm AD a Lles, ac roeddent yn hapus iawn i gasglu’r wobr.
Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchiad o ymrwymiad y Coleg Gŵyr Abertawe i les gweithwyr ond, hefyd, mae’n ysbrydoliaeth i sefydliadau addysgol eraill a sefydliadau’r sector cyhoeddus i roi pwyslais hollbwysig i les eu gweithlu ym mhopeth a wnânt.
Erthygl ddiweddar gan The Times a’n hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o’r menopos a’r cymorth sydd ar gael i staff. Dablennwch amdano yma.