Mae pum myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill lleoedd yng Ngharfan Hir WorldSkills ar ôl dod i’r brig yn eu meysydd yn y Rownd Derfynol Genedlaethol ym mis Tachwedd.
Roedd Liam Hughes, Ben Lewis, Rhys Watts a Nathan Evans yn bedwar o’r pum enillydd yn y categori Electroneg Ddiwydiannol, ac enillodd Paulina Skoczek le ar gyfer Gwasanaethau Bwyty.
“Rydw i mor falch o’n myfyrwyr,” meddai Steve Williams, Arweinydd Cwricwlwm Peirianneg Electronig. “Mae’r ffaith bod pedwar allan o bum enillydd y DU yn dod o’r Coleg yn anhygoel. Mae hyn yn dyst go iawn i’w gwaith caled, ac rydyn ni i gyd yn llawn cyffro ynghylch eu dyfodol. ”
“Mae wedi bod yn anrhydedd cefnogi Paulina drwy’r broses hon,” ychwanegodd Nicola Grant-Rees, Hyfforddwr/Arddangoswr Lletygarwch ac Arlwyo yn y Coleg. “Mae hi wedi gweithio mor galed ac rydyn ni’n hynod falch ohoni.”
Y cam nesaf i’r myfyrwyr hyn yw hyfforddiant “yn ôl i’r hanfodion”, yr hyfforddiant Gwasanaethau Bwyty sy’n digwydd yn Llandudno ac Electroneg Ddiwydiannol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Byddant mewn cyfle i fod yng ngharfan y DU a Team UK a chystadlu yn EuroSkills yn Graz (Awstria) cyn rownd derfynol WorldSkills yn Shanghai.