Mae Prifysgol Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe wedi dod ynghyd i helpu myfyrwyr â chyflyrau sbectrwm awtistig wrth iddynt baratoi i bontio o’r coleg i’r brifysgol.
Maen nhw’n cydweithredu ar brosiect ymchwil am flwyddyn i ymchwilio i heriau posibl sy’n wynebu’r myfyrwyr hyn wrth newid o addysg bellach i addysg uwch.
Dan arweiniad y swyddog cymorth myfyrwyr Dr Mohammed Qasim, y cydlynydd cymorth dysgwyr Ceri Low a’r ymarferydd cyflwr sbectrwm awtistiaeth a myfyriwr PhD Heather Pickard-Hengstenberg, roedd yr astudiaeth yn cynnwys cyfweliadau manwl gyda’r bwriad o nodi’r heriau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu wrth bontio i’r brifysgol a datblygu rhwydweithiau cymorth addas.
Dywedodd Dr Qasim: “Bydd ein partneriaeth yn sicrhau ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd i gefnogi myfyrwyr ag awtistiaeth yn well oherwydd mae gwaith ymchwil wedi canfod eu bod nhw wedi cael trafferth wrth bontio o’r coleg i’r brifysgol am yn rhy hir.
“Rydyn ni bellach wedi cael ein gwahodd i siarad ag aelodau cynulliad ac rydyn ni hefyd yn bwriadu rhannu canfyddiadau ein gwaith ymchwil gyda cholegau addysg bellach eraill.”
Ychwanegodd Heather: “Mae’r gwasanaeth Cyflwr Sbectrwm Awtistiaeth (ASC) ym Mhrifysgol Abertawe yn llawn cyffro ynghylch gweithio’n agos gyda Choleg Gŵyr Abertawe. Fel rhan o’m PhD, ces i’r fraint o gyfweld â myfyrwyr coleg ardderchog ac roedd yr astudiaeth feintiol hon wedi rhoi modd i ni nodi’r anghenion cymorth penodol sydd gan y grŵp unigryw hwn o unigolion cyn dechrau prifysgol.
“Mae’r bartneriaeth yn gam ymlaen o ran darparu ymyriadau cymorth cynnar hanfodol a fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr barhau â’u taith addysgol yn llwyddiannus i’r brifysgol."
Dywedodd Gareth Bromhall, sydd ag ASC ac yn astudio ar gyfer Gradd Meistr yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: “Mae mynd o’r coleg i’r brifysgol yn gam mawr ac mae’n wych y bydd myfyrwyr ASC yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i symud ymlaen a ffynnu yng ngham nesaf eu haddysg. Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn rhagorol o ran y cymorth maen nhw wedi ei roi i mi.”