Mae prentis Electroneg o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill gwobr o fri gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET).
Mae Thomas Eynon, prentis gyda Zeta Alarms Systems, wedi ennill Gwobr Rhwydwaith Lleol IET, sy'n ceisio 'gwobrwyo rhagoriaeth' myfyrwyr.
"Ers cwblhau ei dystysgrif dechnegol yn y coleg ac ymuno â Zeta, dyw Tom heb edrych 'nôl", dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Steve Williams. "Mae e wedi ymroi'n llwyr i'w brentisiaeth fodern ac yn paratoi portffolio gwych o dystiolaeth."
Yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, roedd Tom wedi sefyll allan. Roedd e wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau entrepreneuraidd a'r uchafbwynt oedd cynrychioli'r coleg yn rownd derfynol Cynllun Addysg Peirianneg Cymru yng Ngwesty'r Celtic Manor lle y bu'n gweithio'n ddiflino i berffeithio ateb electronig ar gyfer cwmni atgyweirio. Roedd cynnyrch terfynol Tom a'i dîm mor llwyddiannus mae e wedi cael ei addasu gan y cwmni ac yn cael effaith gadarnhaol iawn ar brosesau atgyweirio'r cwmni.
Mae Tom wedi bod yn weithgar iawn yn ystod ymweliadau ysgol, gan roi cyflwyniadau i ddisgyblion a sôn am fyd cyffrous peirianneg a'r cyfleoedd gwaith yn y sector. Roedd e hefyd wedi arwain cynrychiolaeth o fyfyrwyr i Stuttgart a helpu'r coleg yn ei ymdrechion i gael myfyrwyr i ymddiddori mewn peirianneg yn ystod y rhaglen lwyddiannus Clwb Sadwrn.
"Yn Zeta Alarms mae Tom yn ein helpu ni gyda'r rhaglen profiad cysylltiedig â gwaith drwy hyfforddi ein myfyrwyr ym maes technolegol gweithrediadau'r cwmni," ychwanega Steve. "Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda Tom yn helpu i hyfforddi saith myfyriwr sydd wedi llwyddo i gael gwaith eu hunain erbyn hyn gyda Zeta Alarms - felly mae'n trosglwyddo ei sgiliau a'i brofiad i'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr."
"Mae gwybodaeth dechnegol eang gan Tom ac etheg gwaith ffantastig sydd wedi ei helpu i dyfu o fewn ein cwmni, a chafodd ddyrchafiad yn ddiweddar i swydd Peirianneg Profi," dywedodd Rheolwr Cyffredinol Zeta, Matthew Rogers. "Mae'n bleser gweithio gyda Tom ac yn 21 oed rydym ni'n disgwyl iddo fe fod yn arweinydd o fewn GLT yn y dyfodol. Mae Tom yn glod i'w deulu ac i Goleg Gŵyr Abertawe. Does neb arall yn fwy teilwng o'r wobr."