Cyhoeddwyd y bydd y prentisiaid medrus ifanc gorau o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu dewis i gynrychioli'r DU yn y gystadleuaeth sgiliau fwyaf pwysig a nodedig yn Ewrop.
Yn eu plith mae Collette Gorvett, myfyriwr Lletygarwch Coleg Gŵyr Abertawe.
Bydd Tîm y DU - sy'n mynd i Rownd Derfynol EuroSkills yn Budapest rhwng 26 a 28 Medi - yn cynnwys 22 o gystadleuwyr elit sy'n fedrus mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau o beirianneg i adeiladu, digidol i greadigol.
Rownd Derfynol EuroSkills, sy'n cynnwys timau o bob rhan o Ewrop, yw'r olaf cyn i'r DU adael yr UE y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Dr Neil Bentley, Prif Swyddog Gweithredol WorldSkills UK sy'n dewis a hyfforddi Tîm y DU i'r safon ryngwladol uchaf: "Bydd hwn yn gyfle fydd yn gwella bywydau’r bobl ifanc hynod hyn.
"Ar ôl Brexit, bydd ein llwyddiant economaidd fel cenedl yn dibynnu ar ein gallu i gau'r prif gytundebau masnach a denu mewnfuddsoddiad - a bydd hyn bob amser yn golygu dangos bod gyda ni bobl sydd â'r sgiliau cywir.
Mae Tîm y DU yn ymgorffori nid yn unig y mathau o deithi a nodweddion y dylem ddyheu amdanynt mewn gweithlu ifanc, ond hefyd uchelgeisiau Llywodraeth y DU i gael Prydain Fyd-eang hefyd.
"Arweinwyr eu cenhedlaeth ydyn nhw - a byddan nhw’n ysbrydoli llawer mwy i gerdded yn eu hôl-troed."
Bydd llywodraethau a diwydiant yn gwylio gyda diddordeb i feincnodi pa mor dda y mae Tîm y DU yn perfformio o'i gymharu â phrif gystadleuwyr Ewropeaidd y wlad. Yn rownd derfynol flaenorol Euroskills, a gynhaliwyd yn 2016 yn Gothenburg – daeth Tîm y DU yn seithfed.
Er mwyn sicrhau lle yn Nhîm y DU, mae'r prentisiaid a'r dysgwyr wedi bod trwy broses ddethol gynhwysfawr, gan gymryd rhan yng Nghystadlaethau Cenedlaethol WorldSkills y DU – cynhelir rownd derfynol y gystadleuaeth nodedig hon yn WorldSkills UK LIVE.
Bydd llunwyr polisi, addysgwyr a phartneriaid diwydiant yn Ewrop yn dod i'r digwyddiad - ynghyd â 80,000 o wylwyr (disgwyliedig).
Tîm y DU:
Sgìl |
Enw |
Oedran |
Coleg/Darparwr Hyfforddiant |
Cyflogwr |
Tref Enedigol |
Therapi Harddwch |
Holly-Mae Cotterall |
20 |
Reds Hair Company |
Reds Hair Company |
Coleford, Swydd Gaerloyw |
Gwneud Celfi |
Thomas Pennicott |
19 |
Coleg Chichester |
Amherthnasol |
Chichester |
Melino CNC |
Elliott Dawson |
20 |
Training 2000 Limited |
Fort Vale |
Accrington, Swydd Gaerhirfryn |
Coginio |
Nicolle Finnie |
20 |
Coleg Dinas Glasgow |
Andrew Fairlie at Gleneagles |
Glasgow |
Gosodiadau Trydanol |
Thomas Lewis |
22 |
Coleg Caerdydd a’r Fro |
Blues Electrical |
Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr |
Blodeuwriaeth |
Elizabeth Newcombe |
21 |
Coleg Addysg Bellach ac Uwch Guildford |
Rhubarb and Bramley |
Dunsfold, Surrey |
Trin Gwallt |
Gavin Jon Kyte |
21 |
Reds Hair Company |
Reds Hair Company |
Coleford, Swydd Gaerloyw |
Cynnal a Chadw Tryciau Trwm |
Kieran Leyland |
20 |
Ryder Ltd |
Ryder Ltd |
Warrington, |
Gweinyddu Rhwydwaith TG |
Cameron Barr
Shane Carpenter |
22 |
Nescot
Nescot |
Amherthnasol
BAE Systems |
Worcester Park, Surrey
Croydon |
Saernïaeth |
Christopher Caine |
20 |
Coleg Sir Benfro |
DH Carpentry & Joinery |
Cilgeti, Sir Benfro |
Garddio Tirlun |
Shea Mcferran
Sam Taylor |
20 |
Coleg Myerscough |
Amherthnasol
Garden TLC |
Larne, Co. Antrim
Oldham, Manceinion |
Peirianneg Fecanyddol: CAD |
Ross Megahy |
21 |
Coleg Newydd Lanarkshire |
Amherthnasol |
Wilshaw, North Lanarkshire |
Mecatroneg |
Jack Dakin
Danny Slater |
22
24 |
Toyota Manufacturing Ltd
Toyota Manufacturing Ltd |
Toyota Manufacturing Ltd
Toyota Manufacturing Ltd |
Derby
Derby |
Peintio ac Addurno |
Callum Bonner |
19 |
Coleg Addysg Bellach ac Uwch Forth Valley |
Clackmannanshire Council |
Alloa, Clackmannanshire |
Plymwaith a Gwresogi |
Matthew Barton |
21 |
Coleg Kendal |
WE Barton |
Caerhirfryn |
Gwasanaethau Bwyty |
Collette Gorvett |
21 |
Coleg Gŵyr Abertawe |
The Grill House |
Treforys, Abertawe |
Teilsio Wal a Llawr |
Mark Scott |
18 |
Coleg Dinas Glasgow |
McGoldrick & Sons |
Shotts, North Lanarkshire |
Dylunio Gwe |
Lewis Newton |
20 |
Coleg Highbury, Portsmouth |
Amherthnasol |
Portsmouth |
Weldio |
Scott Kerr |
21 |
Coleg Menai |
PFS |
Llanerch-y-Medd, Sir Fôn |
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
Ynghylch WorldSkills UK
Mae WorldSkills UK wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu sgiliau rhyngwladol am 65 mlynedd trwy ei aelodaeth o WorldSkills International, sy'n trefnu'r 'Gemau Olympaidd Sgiliau' bob dwy flynedd.
Gan newid y sgwrs genedlaethol am fawredd prentisiaethau a sgiliau galwedigaethol, rydym yn creu modelau rôl hyderus, arobryn, o safon fyd-eang, o bob cefndir, sy'n mynd ymlaen i ysbrydoli eraill i ddilyn yn eu hôl-troed.
Rydym yn sefydliad annibynnol sy’n gweithio gyda rhwydwaith o arbenigwyr o fyd addysg a a byd diwydiant sydd wedi dod ynghyd i helpu’r DU i fynd yn bellach, yn gynt.
WorldSkills UK LIVE (gynt y Sioe Sgiliau), sy’n denu mwy na 70,000 o bobl ifanc, yw’r digwyddiad sgiliau rhyngweithiol mwyaf yn y wlad – ac mae’n cael ei gynnal yn yr NEC, Birmingham ym mis Tachwedd (15-17).
I gael gwybodaeth ewch i www.worldskillsuk.org
GWYBODAETH Y CYFRYNGAU GAN DAN KIRKBY 07785 392735 dan@dkpr.co.uk