Roedd myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi perfformio'n eithriadol o dda yn y digwyddiad diweddar 'Penwythnos Dechrau Busnes' a gynhaliwyd yng Nghanolfan Dylan Thomas.
Roedd y digwyddiad yn gystadleuaeth heriol dros 54 awr gyda thimau o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (UWTSD) a Choleg Gŵyr Abertawe yn camu i'r llwyfan i gyflwyno eu syniadau busnes gwreiddiol ac arloesol.
Cafodd y tîm buddugol, Allergy Manager, ei arwain gan gyn-fyfyriwr TG Coleg Gŵyr Abertawe Nathan Buller, a feddyliodd am y syniad gyda'i gydweithwyr o Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol UWTSD gyda chymorth gan ddatblygwyr a dylunwyr o'r ddinas. Eu syniad nhw oedd ap ffôn clyfar a fyddai'n cynnig modd i ddietegwyr, hyfforddwyr personol, gweithwyr proffesiynol meddygol a fferyllfeydd lleol i gydweithio i drin alergeddau cleifion.
Cafodd tîm Autvantage gydnabyddiaeth arbennig hefyd, tîm oedd yn gyfuniad o ddylunwyr, myfyrwyr Prifysgol Abertawe a Joshua David-Jenkins ac Alex Williams o Goleg Gŵyr Abertawe. Cafodd y tîm hwn ei arwain gan Rhys Jenkins a ddatblygodd ei syniad i dynnu sylw cyflogwyr at yr ystod eang o sgiliau a doniau y gallai aelodau o staff awtistig eu cynnig i'w busnes, a chynnig hyfforddiant i'r cyflogwyr hynny.
Roedd tîm ‘Set Plays’ yn cynnwys dau fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe, Alex Williams a Ryan Evans. Roedden nhw wedi cynhyrchu brand cryf ac arddangosiad gweithiol o ap i helpu aelodau newydd o dimau chwaraeon i ddysgu tactegau cyn mynd i'r sesiynau hyfforddi.
Yn y cyfamser, pan nad oedd Ryan yn gweithio ac yn cyflwyno gyda'i dîm, roedd yn brysur yn trydaru o'r digwyddiad, a chafodd ei goroni'n 'Frenin Trydar' Abertawe ym mrwydr hashtag battle Global Start Up. Gyda 22,700 o negeseuon trydan mewn un wythnos, sy'n nifer anhygoel, ar un adeg roedd @swanseasw yn gyntaf yn y rhestr o ddinasoedd y DU, chweched yn Ewrop ac wythfed yn fyd-eang, sy'n dipyn o gamp.
I gyd-fynd â'r Penwythnos Dechrau Busnes, mae cronfa newydd i helpu darpar entrepreneuriaid i wireddu eu syniadau wedi cael ei lansio. Mae Cronfa Hadau Abertawe wedi cael ei sefydlu i feithrin pobl ifanc 16-25 oed wrth iddynt ddatblygu eu syniadau o'r camau cynnar hyd at - o bosib - dechrau busnes llwyddiannus.
“Prif nod y Gronfa Hadau yw gwella rhagolygon pobl ifanc leol a rhoi'r hyder iddynt 'fynd amdani',” dywedodd Sue Poole, Rheolwr Menter Coleg Gŵyr Abertawe. “Y gobaith yw y bydd rhannu ein gwybodaeth, ein profiad a'n sgiliau yn helpu i greu 'cronfa ddoniau' enthrepreneuraidd yn Ninas a Sir Abertawe. Pwy a ŵyr? Gallai'r bobl ifanc hyn fod yn gyflogwyr ac yn arweinwyr busnes y dyfodol."
DIWEDD
Enillwyr Penwythnos Dechrau Busnes 2015 oedd:
* Cyntaf: Allergy Manager
* Ail: Train Tracks
* Trydydd: My Night
* Cymeradwyaeth Arbennig: Autvantage
Roedd y beirniaid yn cynnwys 'draig fusnes' Abertawe ei hun Debra Williams (cyn Rheolwr Gyfarwyddwr Confused.com a Tesco Compare), Anna Bastek (Wolfstone a Voicebox), David Hieatt (cyd-sylfaenydd Hiut Denim yn Aberteifi) a Dina Henry (Prif Swyddog Masnachol Charity Aid Foundation Bank.)