Yn y cyfnod prysur cyn y Nadolig, mae ein Myfyrwyr Rhyngwladol wedi bod yn teithio o gwmpas – a mynd i hwyl yr ŵyl.
Yn gyntaf, aethon nhw i Gaerfaddon lle roedden nhw wedi ymweld â’r Baddonau Rhufeinig cyn galw heibio i farchnad Nadolig drawiadol y ddinas a’r Royal Crescent hanesyddol.
Yn ôl yn Abertawe, roedd y myfyrwyr wedi cymryd ychydig o amser i ffwrdd o’u hastudiaethau a mentro allan yn y tywydd oer i ymweld â Gwledd y Gaeaf ar y Glannau i fwynhau’r reidiau a sglefrio ar yr iâ.