Skip to main content

Myfyrwyr celf yn anelu’n uwch am leoedd Prifysgol

Mae myfyrwyr ar Gampws Llwyn y Bryn y Coleg yn anelu’n uwch am leoedd prifysgol, gyda rhai hyd yn oed yn dilyn yn ôl-traed Stella McCartney.

Ar hyn o bryd maen nhw i gyd yn astudio Diploma Sylfaen Celf a Dylunio, tra bod cyfleoedd yn dod i mewn o golegau celf arbenigol a’r prifysgolion gorau ar draws y DU.

Mae pedwar dysgwr o’r grŵp o 32 wedi sicrhau lleoedd amodol yn UAL (Prifysgol y Celfyddydau Llundain) ac yn Central St Martins, sydd yn un o’r colegau o dan ambarél UAL.

UAL yw’r ail yn y byd ar gyfer celf a dylunio ac mae un myfyriwr wedi cael cynnig i astudio’r cwrs dillad menywod lle mae pobl fel Stella McCartney ac Alexander McQueen wedi astudio.

Mae James Makin yn un o’r myfyrwyr hynny. Astudiodd gyrsiau Safon Uwch mewn Celf a Dylunio, Graffeg a’r Cyfryngau yn Ysgol Gyfun Olchfa ac mae wedi cael cynnig lle yn UAL i astudio Dylunio Ffasiwn (Technoleg Dillad Menywod).

Gwrandewch ar ei brofiad isod:

 

Bydd Lucy De La Haye yn ymuno â James yn Central St Martins i astudio Dylunio Graffig. Bydd Chloe Hill yn mynd i Goleg Ffasiwn Llundain i astudio cwrs BA (Anrh) mewn Effeithiau 3D ar gyfer Perfformio a Ffasiwn, a bydd James Thompson yn mynd i Goleg Cyfathrebu Llundain i ddysgu popeth am ddarlunio.

Myfyriwr arall sy’n symud ymlaen i astudio pellach yw Ela Thomas Morgan sy’n aros yng Nghymru gyda chynnig gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae wedi cael cynnig lle i astudio Dylunio ar gyfer Perfformio, lle mai dim ond 22 o leoedd sydd ar gael. Mae hefyd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol De Cymru i astudio Cynllunio Set Teledu a Ffilm.

Roedd Ela hefyd wedi astudio cwrs Lefel 3 mewn Celf a Dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn, a bydd yn gwneud penderfyniad  ar y camau nesaf yn fuan. 

Gwrandewch ar ei phrofiad isod:

 

 

 

Mae Daisy Taylor, a astudiodd gyrsiau Safon Uwch ar Gampws Gorseinon y Coleg, wedi cael cynnig i astudio Darlunio ym Mhrifysgol Falmouth a Phrifysgol Bournemouth, y ddwy brifysgol yn enwog am eu cyrsiau Celf. Beth bynnag fo’i phenderfyniad, bydd Daisy yn mynd dros y bont ar gyfer ei hastudiaethau! 

Gwrandewch ar ei phrofiad isod:

 

 

Yn siarad am eu llwyddiant, dywedodd yr arweinydd cwricwlwm Elinor Franklin:

“Mae’r cwrs Celf Sylfaen wedi’i leoli’n unigryw i roi cyfleoedd dysgu ardderchog a llwybrau dilyniant cyffrous i’n dysgwyr.

"Bob blwyddyn, mae ein myfyrwyr celf sylfaen yn cael canlyniadau ardderchog a’u llwybrau dilyniant dewis cyntaf. Mae’r gwaith celf maen nhw’n ei ddatblygu drwy’r flwyddyn yn eu paratoi ar gyfer cyfweliad gyda phortffolio cyffrous ac amrywiol. Rydyn ni’n falch iawn o lwyddiannau ein dysgwyr eleni ac rydyn ni’n dymuno pob lwc iddyn nhw yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol ym maes celf a dylunio.”