Mae bandiau sy’n cynnwys myfyrwyr galwedigaethol Lefel 3 Cerddoriaeth o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill rhai o’r prif wobrau yng nghymal rhanbarthol Cerddoriaeth Boblogaidd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar.
Roedd y myfyrwyr, o’r cwrs Diploma Estynedig ar gampws Llwyn y Bryn, wedi cystadlu yn erbyn cerddorion o wyth coleg arall ar hyd a lled Cymru, gan berfformio dwy gân wreiddiol yr un o flaen panel o feirniaid.
Enillodd Zen Dogs y wobr Aur ac enillodd Inscape y wobr Efydd yn ystod y digwyddiad yn Theatr Ffwrnes, Llanelli.
“Mae cipio dwy o’r tair prif wobr yn y digwyddiad hwn yn llwyddiant gwych i’n myfyrwyr,” dywedodd y darlithydd Julian Clarke. “Rydyn ni’n edrych ymlaen nawr at y cam nesaf, lle byddwn ni’n cystadlu yn erbyn yr holl golegau AB yng Nghymru a Lloegr gyda’r posibilrwydd o gyrraedd y rownd derfynol yn yr NEC yn Birmingham.”