Mae dau fyfyriwr Sgiliau Byw’n Annibynnol o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cipio gwobrau mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth a drefnwyd gan Anabledd Dysgu Cymru.
Mae Sophie Maddick a Jon-Luc Howells yn dilyn y cwrs Paratoi at Astudio 2 ar Gampws Tycoch. Mae ffotograffiaeth ddigidol yn un o’r pynciau maen nhw’n ei astudio a chafodd y lluniau buddugol eu tynnu yn ystod ymweliad dosbarth â Bae Langland gyda’r darlithydd Leah Millinship.
Roedd y gystadleuaeth – oedd â’r thema ‘Ein Dyfodol Ni Oll; gwneud pethau’n wahanol ar gyfer dyfodol gwell’ – wedi denu cystadleuwyr o bob rhan o Gymru.
“Roedd Sophie a Jon-Luc wrth eu boddau ac yn falch iawn o gael eu henwi yn enillwyr,” dywedodd Leah. “Enillodd Sophie y wobr gyntaf am y Llun sydd Fwyaf Tebygol i Wneud i Rywun Wenu ac enillodd Jon-Luc y drydedd wobr yn y categori Cyfansoddiad. Am lwyddiant gwych.”
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn elusen genedlaethol sy’n cynrychioli’r sector anabledd dysgu yng Nghymru ac yn canolbwyntio ar greu Cymru sy’n gwerthfawrogi ac yn cynnwys pob plentyn, person ifanc ac oedolyn ag anabledd dysgu.
Lluniau proffesiynol trwy garedigrwyddPaul S-D Photography.