Llongyfarchiadau mawr i dîm pêl-droed Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) Coleg Gŵyr Abertawe am ennill pencampwriaethau cenedlaethol 'Ability Counts' yn St George's Park, Burton on Trent.
Ar ôl ennill yn y gystadleuaeth ranbarthol, roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi cystadlu yn erbyn 16 o golegau buddugol eraill ar draws Lloegr. Nid yn unig roedd y myfyrwyr yn cynrychioli Coleg Gŵyr Abertawe ond Cymru hefyd!
Chwaraeoedd y tîm bum gêm, gan ennill pedair a dod yn gyfartal mewn un, cyn curo Coleg Henley 4-2 yn y rownd derfynol.
Cynhaliwyd y twrnamaint ar y cyd ag AoC Sport (prif sefydliad chwaraeon a gweithgareddau corfforol colegau Addysg Bellach a Chweched Dosbarth) ac fe’i cefnogwyd gan y Gymdeithas Bêl-droed fel rhan o gystadleuaeth ‘Ability Counts’.
Hoffai staff ILS ddiolch i’r myfyrwyr am eu hymroddiad a’u chwarae teg drwy gydol y ddau ddiwrnod. Mae Chris Wright (ESO) yn haeddu sylw arbennig am roi o’i amser i hyfforddi’r myfyrwyr dros y misoedd diwethaf.
Aeth y myfyrwyr ar daith o gwmpas cyfleusterau hyfforddi tîm Lloegr a chawson nhw gyfle hefyd i weld y tu mewn i’r cyfadeilad anhygoel hwn.
Da iawn ILS!
Llun: diolch i AoC