Caiff graddau dros dro eu rhyddhau ar dydd Mercher 9 Mehefin.
Os ydych chi’n teimlo nad yw unrhyw un o’ch graddau’n adlewyrchu’r dystiolaeth o’ch asesiadau, mae gennych gyfle i ofyn i’ch gradd gael ei hadolygu. Yn unol â chanllawiau Cymwysterau Cymru, i ddechrau gallwch ofyn i’r coleg adolygu’r radd.
Sylwch y gallai adolygiad neu apêl arwain at eich gradd yn aros yr un fath, yn cael ei chodi neu ei gostwng.
Mae’r broses ganlynol yn benodol i broses GBG yr haf hwn ac mae’r broses apelio hon yn disodli gweithdrefn apelio gyfredol y coleg. Os ydych yn dal i fod yn anhapus gyda’r radd ar ôl yr adolygiad, byddwch yn gallu apelio i CBAC.
Proses Gwneud Cais am Adolygiad gan y Ganolfan
Cam 1
Ar ôl derbyn eich graddau ar dydd Mercher 9 Mehefin, os ydych yn credu bod gwall wedi’i wneud, mae gennych 48 awr i ofyn am y Cofnod Gwneud Penderfyniadau (CGP) a ddefnyddiwyd i benderfynu ar eich gradd derfynol. Bydd rhaid i chi lenwi a chyflwyno’r ffurflen hon i ofyn am eich Cofnod Gwneud Penderfyniadau. Rhaid cyflwyno’r ffurflen hon erbyn 4pm ddydd Gwener 11 Mehefin.
Os ydych chi’n cael unrhyw drafferth wrth gyrchu’r ffurflen ffoniwch ein Llinell Gymorth ar 01792 890719 / 890787.
Cofiwch na fydd eich athrawon yn gallu trafod eich graddau na chynorthwyo yn y broses adolygu, gan mai rheolwyr y Coleg fydd yn cynnal yr adolygiad.
Cam 2
Pan gewch gopi o’ch CGP, os ydych yn dal i gredu y bu gwall wrth bennu’ch gradd, mae gennych chi bum diwrnod gwaith i benderfynu a ddylech chi ofyn am adolygiad gan y ganolfan.
Bydd manylion sut i wneud hyn yn cael eu hanfon atoch yn uniongyrchol pan fydd eich Cofnod Gwneud Penderfyniadau yn cael ei anfon atoch a byddwn yn rhoi dolen ar wefan y Coleg. Bydd y ddolen ar gael o ddydd Mercher 16 Mehefin a bydd yn cau ar ddydd Mawrth 22 Mehefin am 4pm.
Gweler ein Cwestiynau Cyffredin Covid i gael rhagor o fanylion (adran Gwybodaeth am Asesiadau’r Haf).