Mae Sally Hughes yn edrych ymlaen at yrfa ddifyr gyda Tata Steel ym Mhort Talbot ac yn gobeithio ysbrydoli merched eraill i ddilyn gyrfa wyddonol.
Sally oedd yr unig ferch mewn grŵp o brentisiaid technegol a gychwynnodd gyda’r cwmni ym Mhort Talbot ym mis Medi 2016 a dywed na fu’n hawdd llwyddo mewn amgylchedd mor wrywaidd.
Fodd bynnag, mae’r ferch ifanc 19 oed o Bort Talbot yn benderfynol o gyflawni ei photensial trwy fanteisio ar bob cyfle a gaiff.
Yn awr, mae ei phenderfyniad wedi’i gydnabod ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.
Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.
Roedd Sally wrth ei bodd â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn yr ysgol ac mae wedi cwblhau prentisiaeth mewn Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig (Gwyddoniaeth Ddiwydiannol) ynghyd â Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe.
Ei bwriad yn awr yw gwneud Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) ac HNC mewn Cemeg Gymhwysol, ac yna radd ym Mhrifysgol Abertawe.
Ym mis Mehefin, dewiswyd Sally i gymryd rhan mewn rhaglen Erasmus+ gan ymweld â gwaith Tata Steel yn yr Iseldiroedd i gymharu rhaglenni prentisiaethau a dadansoddi arferion gweithio yn y ddwy wlad gyda’r nod o rannu arferion da.
Mae wedi gweithio mewn gwahanol labordai a thimau gyda Tata Steel gan gyfrannu at brosiectau pwysig, yn cynnwys paratoi adroddiad gwerthuso cyn buddsoddi mewn laserau a rodiau mesur er mwyn gwneud proses samplu’n fwy dibynadwy.
“Rwy’n teimlo’i bod yn fraint cael y cyfle i gael dilyn fy niddordeb mawr mewn gwyddoniaeth, gan weithio i sefydliad mor amrywiol mewn diwydiant sy’n dod â budd i bob rhan o gymdeithas,” meddai Sally. “Mae gennyf ddyheadau mawr a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i wireddu fy mhotensial.”
Dywedodd Matthew Davies, cynghorydd hyfforddiant technegol Tata Steel ym maes dysgu a datblygu ei fod yn rhagweld dyfodol disglair i Sally a’i bod bob amser yn barod i’w herio’i hunan y tu hwnt i’r cynllun hyfforddi arferol.
Wrth longyfarch Sally ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.
“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.
“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”
Cewch wybod rhagor trwy gysylltu â Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818 neu 07779 785451.