Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael pecyn gardd newydd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.
Maent yn un o’r colegau cyntaf yn y wlad i elwa ar gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur eleni.
Bydd tîm Tirlunio Coleg Gŵyr Abertawe yn creu gardd goffa gyda phwyslais ar ddarparu planhigion sy’n fuddiol i beillwyr a bywyd gwyllt ar Gampws Hill House. Mae’r planhigion, yr offer a’r deunyddiau i gyd yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Dywedodd y darlithydd Garddwriaeth a Thirlunio Paul Bidder:
“Rydyn ni wrth ein bodd derbyn pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gan Cadwch Gymru’n Daclus ac mae ein dysgwyr yn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau’r gwaith o drawsnewid yr ardal o gwmpas tiroedd ein coleg. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i helpu peillwyr a bywyd gwyllt arall trwy roi bwyd a lloches iddyn nhw. Y pecyn cymorth hwn yw’r man cychwyn sydd ei angen arnon ni.
"Nid yn unig bydd yn helpu’r bywyd gwyllt lleol yn y Coleg ond bydd yn ein cynorthwyo i greu amgylchedd hyfryd i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr ymlacio a gorffwys. Yn ogystal, bydd yn dod yn lle addysgu hanfodol i’r myfyrwyr garddwriaeth hogi eu sgiliau.
"Nawr ein bod ni wedi bod yn ddigon lwcus i gael y pecyn hwn, rydyn ni i gyd yn barod i ymgeisio am Becyn Datblygu i fynd â’n campws i’r lefel nesaf. Hoffen ni ddiolch i Cadwch Gymru’n Daclus a Llywodraeth Cymru am eu cymorth i wneud hyn”
Y llynedd, cafodd dros 500 o erddi bach ar hyd a lled Cymru eu creu, eu hadfer a’u gwella. Cymerodd grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob math a maint ran – o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.
Dywedodd Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
“Yn ystod y deuddeg mis, mae mwy o bobl nag erioed wedi dod i werthfawrogi gwerth natur ar eu stepen drws. Ond mae’n rhaid gweithredu ar frys i wrthdroi ei ddirywiad.
“Rydym wrth ein bodd bod Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy Leoedd Lleol ar gyfer Natur. Ein gobaith yw y bydd cymunedau eraill yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan.”
Mae’r fenter yn rhan o gronfa ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar ein stepen drws’.
Mae cannoedd o becynnau gardd am ddim ar gael. I wneud cais, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus
***
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn addysgu sgiliau tirlunio a garddio i bobl ifanc 14-16 oed sy’n dod i’r campws ar gynllun lleoliad o’u hysgolion. Yn ogystal, mae’r Coleg yn cynnig cwrs garddwriaeth a thirlunio Lefel 2 amser llawn sydd ar agor i unrhyw un o 16+ oed.
Am fwy o wybodaeth am Leoedd Lleol ar gyfer Natur, cysylltwch â’r tîm yn nature@keepwalestidy.cymru
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn elusen amgylcheddol gofrestredig sydd yn gweithio i ddiogelu ein hamgylchedd nawr ac i’r dyfodol. Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth: www.keepwalestidy.cymru