Roedd golygfeydd hyfryd a thraeth eang Bae Rhosili wedi creu cryn argraff ar ein carfan blwyddyn 1af bresennol.
Roedd y myfyrwyr yn falch iawn o gael cyfle i ymlacio gyda’i gilydd a chymdeithasu ar un o draethau mwyaf poblogaidd Bro Gŵyr. Roedd glaw yn edrych yn debygol, ond yn ffodus, roedd y tywydd wedi aros yn sych ac yn fwyn yn ystod ein hymweliad grŵp.
“Dyma un o’r golygfeydd gorau dwi erioed wedi’i gweld, ac mae Pen Pyrod yn fy atgoffa i o’m hoff draeth gartref,” meddai Nick, sy’n wreiddiol o Gambodia.
Yn sicr roedd y grŵp i gyd yn ymddangos yn fywiog ar ôl cerdded ar draws y traeth gan edmygu tirwedd hardd Penrhyn Gŵyr a chael hufen iâ cyn dychwelyd i’r campws.
Yn y llun hwn mae myfyrwyr o Gambodia, Tsieina a Hong Kong.
Tynnwyd y llun o’r myfyrwyr o fewn eu swigen dosbarth.