Yn dilyn newid diweddar i ganllawiau Llywodraeth Cymru, o hyn ymlaen bydd yn orfodol i’r holl staff, myfyrwyr ac ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb y tu allan yn ogystal â’r tu mewn pan fyddant ar diroedd y campysau.
Os ydych yn gwisgo amddiffynnydd wyneb, cofiwch fod rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb hefyd.
Yr unig adegau pan na fydd rhaid gwisgo gorchuddion wyneb yw:
- Mewn ystafelloedd dosbarth, wrth eistedd wrth eich desgiau. Fodd bynnag, os ydych mewn maes pwnc sydd, ar hyn o bryd, yn gofyn i chi eu gwisgo mewn gwersi, dylech barhau i wneud hynny.
- Mewn swyddfeydd, wrth eistedd wrth eich desgiau (gan sicrhau y cedwir at yr uchafswm nifer Covid-19 a nodir ar bob drws).
- Mewn ystafelloedd staff, wrth eistedd wrth fyrddau (gan sicrhau y cedwir at yr uchafswm nifer Covid-19 a nodir ar bob drws).
- Wrth fwyta/yfed mewn mannau dynodedig (gall hyn fod y tu mewn neu y tu allan).
Mae eithriadau yn berthnasol os na allwch wisgo gorchudd wyneb, mae’r rhain yn cynnwys:
- Cyflyrau anadlu cronig sylfaenol (byddwn yn gofyn i chi ddangos eithriad meddygol)
- Salwch corfforol neu feddyliol, anabledd neu nam
- Bod yng nghwmni rhywun sy’n dibynnu ar ddarllen gwefusau lle mae angen iddynt gyfathrebu.
Os yw unrhyw un o’r meini prawf uchod yn berthnasol i chi, rhowch wybod i aelod o staff a fydd wedyn yn eich cyfeirio i siarad ag Ymgynghorydd Iechyd Myfyrwyr. Os ydych chi’n aelod o staff, rhowch wybod i’ch rheolwr llinell a fydd yn gallu eich cynghori ymhellach.
I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau i’r cyngor, ewch i wefan LlC.
Diolch am eich ein helpu i wneud popeth y gallwn, parhewch i wneud hynny i gadw pawb yn ddiogel.