Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o fod wedi ennill achrediad Cymorth Gofalwyr Safon Ansawdd (QSCS) gan y Ffederasiwn Gofalwyr am y lefel uchel o gymorth mae’n ei chynnig i oedolion ifanc sy’n gofalu. Bydd y QSCS yn helpu i godi ymwybyddiaeth, cael gwared ar rai o’r rhwystrau i ofalwyr, datblygu polisïau a gweithdrefnau priodol a gwella mynediad at gymorth.
Mae’r anawsterau a’r gofynion eleni wedi bod yn ddigynsail i fyfyrwyr ac felly mae’n bwysig cymeradwyo ymdrechion y Tîm Cymorth i Fyfyrwyr. Mae’r wobr hon yn dyst i’w harfer da yn y Coleg.
Yn siarad am yr achrediad, dywedodd y Swyddog Cymorth i Fyfyrwyr, Ryan McCarley: “Mae’r cymorth rydyn ni’n ei ddarparu yn cynnwys bod ‘na i wrando arnoch chi, neu eich helpu chi i ddatrys unrhyw broblemau sydd gyda chi o ganlyniad i’ch cyfrifoldebau gofalu. Pa bynnag gymorth sydd ei angen arnoch, byddwn ni’n gwneud ein gorau i helpu.”
Mae’r cymorth i oedolion ifanc sy’n gofalu yn gyfrinachol ac yn cael ei ddarparu gan ein Swyddogion Cymorth i Fyfyrwyr ac unrhyw asiantaethau allanol perthnasol. Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind a hoffech wybod rhagor ynghylch sut y gallwn ni helpu, galwch heibio i’n gweld ni neu e-bostiwch Tamsyn.Oates@gcs.ac.uk neu Ryan.McCarley@gcs.ac.uk.
Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.gcs.ac.uk/cy/gofalwyr-ifanc