Mae Jisc yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â Digidol 2030, sydd â’r nod o weld darparwyr dysgu yng Nghymru yn manteisio ar botensial technoleg ddigidol wedi’i hategu gan egwyddorion arloesi, cydweithio, cydgynhyrchu a phartneriaeth gymdeithasol.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o fod wedi cymryd rhan mewn dwy astudiaeth achos yn ddiweddar:
Mae prosiect Growing Comms yn edrych ar osod mannau dysgu gweithredol cysylltiedig mewn AU ac AB sy’n cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr.
Mae Traciwr Targed yn gweld colegau’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu offer digidol i gynorthwyo dysgwyr ag anghenion ychwanegol.
“Rydyn ni bob amser yn awyddus i gydweithio’n greadigol i wella profiadau dysgu ein myfyrwyr gan ddefnyddio technoleg newydd,” meddai Kate Pearce, Rheolwr Atebion Digidol y Coleg. “Yn ddiweddar mae’r ddau brosiect hyn wedi rhoi cyfle i ni ddatblygu ffyrdd newydd arloesol o weithio ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut y gallwn ni fwrw ymlaen â’r rhain nawr er mwyn gwireddu gweledigaeth Digidol 2030.”