Mae’r Grŵp Collab o Golegau yn falch o gyhoeddi Coleg Gŵyr Abertawe fel ei aelod mwyaf newydd.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn un o’r colegau addysg bellach mwyaf yng Nghymru, mae ganddo enw da iawn a bydd yn ychwanegiad gwych i’n rhwydwaith o golegau blaengar.
Mae’r Coleg yn ymfalchïo yn ei ddarpariaeth cyrsiau Safon Uwch, galwedigaethol, proffesiynol ac addysg uwch o safon uchel, yn ogystal â phortffolio prentisiaethau cynyddol a addysgir mewn partneriaeth â chyflogwyr allweddol.
Mae’r Coleg yn cynnig rhaglenni hyfforddi sy’n cyd-fynd â ffocws strategol rhwydwaith Grŵp Collab. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau yn y sectorau peirianneg, ynni a chyfleustodau yn ogystal â TG ac arloesedd digidol. Mae’r Coleg hefyd yn cynnig hyfforddiant mewn ymateb i anghenion yr economi leol gyda’r nod o gynyddu gallu cynhyrchu yr ardal.
O ran myfyrwyr, mae lefelau boddhad yn gyson uchel, gyda 94% o fyfyrwyr yn datgan eu bod yn hapus gydag ansawdd eu cyrsiau.
Yn 2018 roedd y Coleg wedi ennill proffil Estyn (sy’n cyfateb yng Nghymru i Ofsted) llwyddiannus ac mae mewn sefyllfa ariannol gref.
Dyweoddd Ian Pretty, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Collab: “Rwy’n estyn croeso cynnes i Goleg Gŵyr Abertawe i rwydwaith Grŵp Collab. Mae’n goleg arweiniol yng Nghymru gyda lefelau gwych o foddhad myfyrwyr, cyllid ac enw da.
“Mae ffocws sectorol y Coleg yn cyd-fynd yn dda â phroffil ein haelodau presennol a bydd hyn yn rhoi modd i ni gryfhau’r gwasanaethau y gallwn ni eu darparu i gyflogwyr mawr.
“Mae ymestyn ein cwmpas daearyddol yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer ein rhwydwaith ledled y DU, ac mae Coleg Gŵyr Abertawe yn rhoi modd i ni gyflawni hynny. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Pennaeth, Mark Jones a’i dîm o arweinwyr ac mae’n bleser gen i eu croesawu nhw.”
Yn sôn am y bartneriaeth, dywedodd y Pennaeth Mark Jones: “Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi datblygu dull arloesol ac allblyg ychwanegol o ymdrin â phob maes o’i fusnes. Gan hynny, rydyn ni’n falch o gael ein gwahodd i ymuno â Grŵp Collab ac i weithio ochr yn ochr â grŵp o golegau llwyddiannus sydd â meddylfryd tebyg ac, wrth wneud hynny, i rannu’r arferion gorau er lles ein holl fyfyrwyr a chyflogwyr.”