Skip to main content

Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd

Amser-llawn
Lefel 1
C&G
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Mae City & Guilds Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Cyflogadwyedd yn ceisio cynorthwyo pobl ifanc trwy wella eu rhagolygon o gael gwaith a rhoi’r sgiliau iddynt sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.

Byddwn ni’n cynorthwyo dysgwyr i chwilio am gyflogaeth addas a gwneud cais amdani a’u paratoi ar gyfer astudiaethau pellach mewn maes o’u dewis.

Bydd y cwrs yn cwmpasu unedau megis:

•    Cynllunio ar gyfer Dilyniant
•    Cynllunio Gyrfa a Gwneud Ceisiadau
•    Creu Argraff Bositif
•    Gwasanaeth Cwsmeriaid
•    Rheoli Cyllid Personol
•    Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle
•    Menter a Gweithio fel Tîm

Gwybodaeth allweddol

Yn ddelfrydol, byddwch wedi cael o leiaf bedair gradd D-G ar lefel TGAU, ond byddwch yn cael cyfle i weithio tuag at wella graddau Saesneg a Mathemateg.

Gallwch ymuno â’r rhaglen hon ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd a bydd y cymhwyster a gyflawnir yn seiliedig ar unedau wedi’u cwblhau.

Byddwn ni’n ceisio eich helpu i ddod o hyd i gyflogaeth, neu gallech wneud cais am gwrs amser llawn pellach yn y Coleg.

Nid yw’r cwrs hwn ond ar gael i bobl ifanc a fydd yn 19 oed neu iau ar 30 Mehefin 2022.

Angen cyfweliad.