Sgiliau Garwddwriaeth Ymarferol Lefel 2 - Diploma
Trosolwg
Bwriedir y cwrs hwn i fyfyrwyr sydd â diddordeb neu brofiad ym myd tirlunio a garddio. Gallai hyn fod fel hobi, trwy gwrs Lefel 1, profiad gwaith neu ddidordeb mewn pethau gwyrdd!
Yn ystod y cwrs, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau bywyd go iawn ar y safle ac oddi ar y safle ar y cyd â’n partneriaid niferus, e.e. Cwrs Golff Pennard, Coedwig Penllergaer, Parc Singleton.
Byddwch yn:
- Dysgu am egwyddorion tirlunio, cysyniadau dylunio, ac elfennau sy’n creu lleoedd awyr agored cyfareddol
- Datblygu technegau tirlunio caled a all gynnwys adeiladu llwybrau, waliau, patios a ffensys terfyn
- Deall sut i dyfu a gofalu am blanhigion a llysiau
- Dewis y planhigion cywir ar gyfer lleoliadau gwahanol a dysgu sgiliau cynnal a chadw gardd hanfodol
- Dysgu sut i ddefnyddio offer a pheiriannau priodol mewn ffordd ddiogel ac effeithiol
- Cael profiad o weithio gyda chwsmeriaid trwy brosiectau yn y gymuned, ffeiriau gwyrdd a digwyddiadau tymhorol.
Gwybodaeth allweddol
Bydd rhaid i fyfyrwyr ddangos diddordeb mewn tirlunio caled a meddal ac, yn ddelfrydol, bydd ganddynt gymhwyster Diploma Lefel 1 Adeiladu a Garddio Tirlun, neu un Radd C ar lefel TGAU.
Tri diwrnod yr wythnos am flwyddyn.
Asesu:
- Arsylwi perfformiad ymarferol
- Portffolio o dystiolaeth ffotograffig
- Asesiadau ysgrifenedig byr.
Meini Prawf Graddio:
Pasio.
Mae dysgwyr blaenorol ar y cwrs hwn wedi cael cyflogaeth gyda chontractwyr tirlunio, cwmnïau adeiladu, canolfannau garddio, meithrinfeydd planhigion, a’r adran barciau. Mae rhai hyd yn oed wedi sefydlu eu busnesau cynnal a chadw gerddi eu hunain.
Cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau Tirlunio a Garddwriaeth Lefel 3.