Skip to main content

Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Lefel 3 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 1/2
Diploma
Tycoch, Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch), 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Bydd y cwrs dwy flynedd hwn yn rhoi dealltwriaeth o’r systemau trydanol a mecanyddol sy’n cael eu defnyddio ar gerbydau ysgafn modern. Mae’r dulliau asesu a ddefnyddir yn cynnwys tasgau ymarferol, aseiniadau ac arholiadau ar-lein. Byddwch hefyd yn datblygu’ch sgiliau mathemateg, Saesneg a llythrennedd digidol. 

Modiwlau: 

  • Iechyd, diogelwch a chadw tŷ da yn yr amgylchedd modurol 
  • Cefnogaeth ar gyfer rolau swyddi yn yr amgylchedd gwaith modurol 
  • Defnyddiau, ffabrigo, offer a dyfeisiau mesur a ddefnyddir yn yr amgylchedd modurol 
  • Cyflwyniad i dechnoleg cerbydau a dulliau a phrosesau gweithdy 
  • Gwneud gwaith cynnal a chadw sylfaenol ar gerbydau modur 
  • Unedau a chydrannau systemau mecanyddol, iro ac oeri injans cerbydau ysgafn 
  • Unedau a chydrannau systemau tanwydd, tanio, awyr a gwacáu cerbydau ysgafn 
  • Tynnu ac adnewyddu unedau a chydrannau trydanol cerbydau ysgafn 
  • Tynnu ac adnewyddu unedau a chydrannau siasi cerbydau ysgafn 
  • Gwaith cynnal a chadw cyffredinol ar gerbydau ysgafn 
  • Unedau a chydrannau trawsyrru a llinell yriant cerbydau ysgafn. 

Gwybodaeth allweddol

Gradd D mewn pynciau TGAU priodol gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith ynghyd â chyfweliad. 

Addysgir y cwrs trwy arddangosiadau ymarferol sy’n cael eu hategu gan dasgau gwaith realistig, lle mae’r pwyslais ar eich gallu i ddangos y sgiliau gofynnol. Rhoddir gwybodaeth sylfaenol ar gyfer pob uned yn yr ystafell ddosbarth, lle cewch eich annog i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr. 

Asesir dysgwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys gweithgareddau ymarferol, arholiadau ar-lein amlddewis a chymryd rhan mewn gwaith portffolio ac aseiniadau. 

  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2
  • Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur (Diploma Lefel 3) 
  • Technoleg Cerbydau (Diploma Lefel 3) gyda sgiliau mathemateg digonol.  

Mae’r eitemau canlynol yn hanfodol er mwyn cwblhau’r cwrs:

  • Cyfarpar diogelu personol sy’n cydymffurfio â safonau diogelwch Prydeinig
  • Deunydd ysgrifennu amrywiol
  • Trwydded pecyn dysgu electronig Electude.