Celf a Dylunio Lefel 3 - Diploma Sylfaen
Trosolwg
Mae’r Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn rhaglen astudio ddwys, sy’n rhoi sylfaen gadarn i fyfyrwyr mewn disgyblaethau artistig amrywiol. Nod y cwrs Lefel 3 hwn yw datblygu eich creadigrwydd, eich sgiliau meddwl beirniadol, a’ch galluoedd technegol, gan roi modd i chi ddilyn addysg prifysgol neu ddechrau gyrfa ym maes deinamig celf a dylunio.
Gwybodaeth allweddol
Mae angen i ymgeiswyr fodloni’r gofynion mynediad canlynol:
- Un Safon Uwch gyda phum gradd 9-5 (A*-C) ar lefel TGAU neu’r cyfwerth
- Cymhwyster Galwedigaethol Lefel 3, yn ddelfrydol mewn Celf a Dylunio
- Cymwysterau eraill yr ystyrir eu bod yn gyfwerth. Mae croeso i fyfyrwyr hŷn wneud cais. Yn amodol ar gyfweliad a phortffolio o waith.
Asesir gwaith cwrs ar adegau allweddol yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd dysgwyr yn cyflwyno gwaith mewn llyfrau braslunio, blogiau digidol ac mewn fformatau ymarferol gwahanol a chânt eu hasesu ar ymchwil, datblygiad, arbrofi, a chanlyniadau terfynol.
Mae dysgwyr yn cwblhau chwe uned yn ystod y cwrs blwyddyn. Mae dysgwyr y bedair uned gyntaf yn gallu cael gradd pasio yn unig. Mae dysgwyr y ddwy uned olaf yn gallu cael gradd pasio, teilyngdod neu ragoriaeth sy’n denu’r pwyntiau UCAS canlynol: Rhagoriaeth 112. Teilyngdod 96. Pasio 80.
Ar ôl cwblhau’r Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn llwyddiannus, bydd gan fyfyrwyr set amrywiol o sgiliau a phortffolio cryf, gan roi modd iddynt ddilyn llwybrau amrywiol, gan gynnwys:
- Symud ymlaen i raglenni addysg uwch fel graddau Baglor mewn celf, dylunio, neu feysydd cysylltiedig
- Dilyn gyrfaoedd mewn meysydd fel celfyddyd gain, darlunio, dylunio graffig, dylunio ffasiwn, ffotograffiaeth, hysbysebu, neu animeiddio
- Gweithio fel artistiaid llawrydd, dylunwyr, neu weithwyr creadigol proffesiynol yn y diwydiant.
Mae dysgwyr o’r cwrs hwn yn elwa’n rheolaidd ar ddosbarthiadau meistr artistiaid, ymweliadau AU a chyfleoedd i arddangos eu gwaith yn gyhoeddus gan eu paratoi ar gyfer gyrfa greadigol. Mae dysgwyr yn symud ymlaen i nifer o brifysgolion eithriadol gan gynnwys UAL: Central St Martins, Coleg Ffasiwn Llundain a Camberwell, Kingston, Manceinion, UWE Bryste a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae briffiau byw a gweithio gyda Chystadlaethau Sgiliau Cenedlaethol o fudd i’n dysgwyr ar gyfer eu camau nesaf gyda llawer ohonynt yn ennill medalau mewn cystadlaethau creadigol cenedlaethol.