Colur Ffasiwn a Ffotograffig - Tystysgrif
Trosolwg
Mae’r cymhwyster galwedigaethol arbenigol hwn yn seiliedig ar ddylunio a defnyddio colur ffasiwn a ffotograffig sy’n cynnwys gogwyddau ffasiwn uchel, ffasiwn cyfnod, brigdrawst, ffantasi, priodas ac edrychiadau masnachol. Yn ogystal, byddwch yn dysgu’r meini prawf sydd eu hangen ar gyfer ffotograffiaeth liw a du a gwyn.
Mae unedau’r cwrs yn cynnwys:
- Iechyd, diogelwch a hylendid
- Paratoi’r man gwaith a’r man cleientiaid
- Ymgynghori â chleientiaid
- Gwrthrybuddion a gwrthweithredoedd
- Swyddogaeth y croen
- Clefydau ac anhwylderau’r croen
- Uwch dechnegau colur
- Colur ffasiwn a ffotograffig
- Hyrwyddo a gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau
Diweddarwyd Tachwedd 2018
Gwybodaeth allweddol
Yn addas i’r myfyrwyr sydd eisoes wedi astudio Tystysgrif Lefel 2 mewn Colur Cosmetig ac Ymgynghori ynghylch Harddwch neu sydd ag addysg gyffredinol dda.
Mae agwedd gadarnhaol a brwdfrydedd yn hanfodol. Rhaid bod gennych sgiliau cyfathrebu da a’ch bod wedi’ch cyflwyno’n dda.
Addysgir un noson yr wythnos (6-9pm) dros 34 wythnos.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymweld â lleoliadau amrywiol ac astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol, ac felly mae’n llwybr delfrydol i’r rhai sydd am astudio’n hyblyg o gwmpas ymrwymiadau eraill.
Bydd y tiwtor yn arddangos y triniaethau a’r technegau a bydd dysgwyr wedyn yn perfformio’r driniaeth ar eu model. Caiff dysgwyr eu hasesu ar eu technegau ymarferol a thrwy asesiadau ysgrifenedig.
Mae’n bosibl symud ymlaen yn y maes medrus hwn i golur cuddliwio, uwch dechnegau colur gan gynnwys llunberffeithio neu’r Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Gwallt, y Cyfryngau, Theatr a Ffasiwn.
Rhaid i bob myfyriwr ddod i sesiwn arweiniad gorfodol cyn cofrestru. Ffoniwch ni ar 01792 284049 i gael dyddiadau ac amserau.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr wisgo trwser du hyd llawn, esgidiau caeedig du gwastad, top du plaen a ffedog.
Rhaid prynu cit i astudio ar y cwrs hwn – mae’n costio tua £160 (seiliedig ar bris 2018).