Ymwybyddiaeth Seiberddiogelwch i Fusnesau CHA201 - Cymhwyster Canolradd
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Bydd y cwrs undydd hwn yn helpu i adeiladu ar y profiad blaenorol a dderbynioch fel rhan o’n cwrs sylfaenol, gan wella eich dealltwriaeth o fygythiadau a risgiau.
Byddwch yn gwella eich dealltwriaeth o fygythiadau ynghyd â strategaethau diogelu a lliniaru. Byddwch yn astudio pwysigrwydd strategaethau monitro, cydymffurfio ac asesu risg, y defnydd o brosesau rheoli digwyddiadau, sut i greu cynlluniau hirdymor yn ogystal â darganfod sut y gall sefydliadau ddefnyddio ystod o offer yn effeithiol i gynnal arferion seiber diogel
Cynnwys y cwrs:
- Cysyniadau seiberddiogelwch, gan gynnwys pwysigrwydd triad CIA ac egwyddorion allweddol megis dilysu, awdurdodi ac anymwrthod.
- Deall a datblygu'r gallu i adnabod bygythiad, gwahanol fathau o faleiswedd, ac effaith ysbïo seiber, APTs a seiberderfysgaeth.
- Arferion gorau o ran seiberddiogelwch a'r rhesymau y dilid ei ddefnyddio yn eich sefydliad.
- Y gallu i weithredu arferion gorau seiberddiogelwch yn eich sefydliad a defnyddio offer a thechnolegau seiberddiogelwch.
Gwybodaeth allweddol
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer microfusnesau a busnesau bach sydd eisiau cryfhau eu gwytnwch seiber.
Bydd dysgwyr yn derbyn 12 awr o greded DPP ar ôl cwblhau’r cwrs hwn.
Modiwl un – Adolygu cysyniadau sylfaenol
Gloywi hanfodion
- Adolygiad cryno o gysyniadau sylfaenol
- Y tu hwnt i’r Triad CIA Deall egwyddorion dilysu, awdurdodi, archwilio, atebolrwydd, anymwrthod a'r risg o oramddiffyn.
Modiwl dau – Natur bygythiadau, maleiswedd, cyngor, bregusrwydd a rheoli patshys
Natur bygythiadau cymhleth
- Natur esblygol bygythiadau seiber
- Deall gwahanol fathau o hacwyr Het wen, het ddu, het lwyd ac ati
- Bygythiadau seiber mwy difrifol a'u goblygiadau
Mynd i’r afael â maleiswedd
- Diffinio a dosbarthiad: Firysau, trojans, mwydod, ransomware, ysbïwedd
- Pwytniau mynediad: Sut mae malweiswedd yn efffeithio ar systemau
- Astudiaethau achos diweddar ar faleiswedd
Materion cynghorol, bregusrwydd a rheoli patshys
- Rôl cynghorwyr mewn seiberddiogelwch
- Deall sut i reoli bregusrwydd
- Pwysigrwydd patshys a diweddariadau
Modiwl tri – Fframweithiau, cydymffurfiaeth, rheoli risgiau a digwyddiadau
Fframweithiau seiberddiogelwch a chydymffurfiaeth
- Pwysigrwydd fframweithiau
- Trosolwg o fframweithiau a rheoliadau cydnabyddedig
- Mynd i'r afael â heriau a goblygiadau diffyg cydymffurfio
- Elfennau o reoli cydymffurfiaeth effeithiol ac arferion gorau
Hanfodion rheoli risg
- Eich rôl yn y broses rheoli risg
- Nodi a diogelu asedau gwybodaeth
- Cylch bywyd rheoli risg
Rheoli ac ymateb i ddigwyddiadau a pharhad
- Cyflwyniad i reoli digwyddiadau a'i bwysigrwydd
- Proses ymateb i ddigwyddiad manwl
- Y berthynas rhwng parhad busnes, adfer ar ôl argyfwng a rheoli digwyddiadau
Modiwl pedwar – Goruchwylio trydydd parti a chynnal hylendid seiber
Goruchwylio trydydd parti Monitro, cydymffurfio ac asesu risg
- Deall bygythiadau allanol
- Arferion gorau ar gyfer asesu risg trydydd parti
Cynnal hylendid seiber
- Y rhestr wirio ar gyfer hylendid seiber: Pam mae ei angen arnom?
- Offer i ddefnyddio hylendid seiber
Crynodeb
Dilyniant i unrhyw un o Lwybrau Dysgu Diogelwch Ardystiedig Microsoft.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Hyb Arloesedd Seiber Cymru.