Trefnu Blodau
Rhan-amser
AGORED
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn:
01792 284021 (Llwyn y Bryn)
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn gyfle i ddatblygu sgiliau trefnu blodau traddodiadol a chyfoes ac mae ar gyfer unrhyw un sydd efallai’n ystyried sefydlu ei fusnes ei hun gartref neu agor siop neu sydd am ddysgu ychydig mwy am sut i drefnu blodau.
Bydd y gweithdai yn cwmpasu amrywiaeth o dechnegau a byddan nhw’n eich annog i archwilio’ch syniadau’ch hun i’w datblygu. Gan ddatblygu trefniant newydd bob wythnos, byddwch chi’n archwilio trefniannau tymhorol a defnyddio deunyddiau planhigion i ategu’ch chwaethau a’ch syniadau eich hun.
Gwybodaeth allweddol
Does dim angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb yn y maes pwnc. Byddai’n fuddiol i ddysgwyr fynychu bob tymor i gynyddu sgiliau yn barod ar gyfer cyrsiau tymor dau a thymor tri, er nid yw hyn yn rhwystr i fynychu bob tymor fel cwrs annibynnol.
Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn. Yn ystod y cwrs bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau. Asesir hwn er mwyn cael tystysgrif ar gyfer y cymhwyster.
Gallech chi symud ymlaen o unrhyw gwrs rhan-amser i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. Yn achos oedolion sy’n ddysgwyr sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio fod yn llwybr dilyniant addas ar gyfer hyn.
Mae ffi stiwdio o £15 ar y cwrs hwn.