Technoleg Ewinedd Lefel 2 - Tystysgrif
Trosolwg
Mae Dyfarniad VTCT Lefel 2 mewn Technoleg Ewinedd yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol i ddysgwyr sy’n ceisio gyrfa fel technegydd ewinedd cyflogedig neu hunangyflogedig.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i weithio’n effeithiol fel technegydd ewinedd megis darparu a chynnal gwelliannau i ewinedd, triniaethau dwylo, iechyd a diogelwch a gofal cleientiaid.
Drwy gydol y flwyddyn, byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol a chaiff eich sgiliau eu hasesu mewn amgylchedd gwaith realistig.
O fewn y cymhwyster byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn o iechyd a diogelwch, gofal cleientiaid a chyfathrebu.
- Darparu Triniaethau Dwylo
- Darparu Triniaethau Traed
- Darparu a Chynnal Gwelliannau i Ewinedd
- Gofalu am Gleientiaid a Chyfathrebu â nhw mewn Diwydiannau Cysylltiedig â Harddwch
- Dilyn Arferion Iechyd a Diogelwch yn y Salon.
Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT:
Gwybodaeth allweddol
- Cymhwyster Lefel 2 mewn therapi harddwch NEU gyfweliad llwyddiannus
- Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1.
Asesiadau ymarferol parhaus, arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol.
Mae cyfleoedd gyrfa fel techegydd ewinedd iau yn cynnwys gweithio mewn salon ewinedd masnachol, bar ewinedd consesiwn adwerthu, neu fel gweithiwr annibynnol hunangyflogedig symudol neu mewn lleoliad cartref.
Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs.
Byddwn ni’n cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.