Sgiliau a Strategaethau Cwnsela Lefel 1
Trosolwg
Mae ein cwrs Lefel 1 mewn Sgiliau a Strategaethau Cwnsela yn gwrs diddorol a rhagarweiniol i’r rhai a hoffai archwilio maes cwnsela.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i chi i faes cwnsela ac mae’n ddelfrydol i unigolion sy’n gobeithio ennill sgiliau cwnsela sylfaenol y gellir eu cymhwyso mewn lleoliadau amrywiol.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Addysgu wyneb yn wyneb (bob nos Fercher 6pm-8pm).
Asesir y cwrs trwy chwarae rôl/efelychu/cwblhau llyfr gwaith.
Ar ôl astudio’r cwrs hwn, gallech symud ymlaen i’r cwrs Lefel 2 Diploma mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach, neu os byddwch yn cwblhau asesiad mynediad yn llwyddiannus gallwch symud ymlaen yn syth i’r cwrs Mynediad i Sgiliau Cwnsela a Seicoleg.
Fel myfyriwr, byddwch yn dysgu am:
- Wahanol strategaethau helpu
- Cyfrifoldebau, sgiliau ac agweddau cwnselwyr
- Defnyddio sgiliau holi a gwrando
- Deall y defnydd o gwnsela mewn gwahanol leoliadau
- Cost y cwrs: £50.