Skip to main content

Rheoli Straen yn y Gwaith (NEBOSH) Lefel 3 - Cymhwyster

Rhan-amser, GCS Training
Lefel 3
NEBOSH
Llys Jiwbilî
Un diwrnod

Trosolwg

Nod y cwrs hwn yw helpu dysgwyr i nodi a lleihau straen yn y gwaith er mwyn creu gweithle positif ac iachach. 

Bydd y cymhwyster yn eich galluogi i ddeall: 

  • Yr achos fusnes mewn perthynas â mynd i’r afael â straen a materion iechyd meddwl cysylltiedig
  • Y gofynion cyfreithiol, rolau a chyfrifoldebau ar gyfer rheoli straen yn y gwaith
  • Sut i adnabod arwyddion ac effeithiau straen yn y gwaith
  • Sut i adnabod y chwe agwedd ar ddyluniad y gweithle a all achosi straen yn y gweithle a salwch meddwl Sut i weithredu Safonau Rheoli HSE i nodi ac asesu risgiau straen sy’n gysylltiedig â gwaith

Gwybodaeth allweddol

Bydd darpariaeth y cwrs yn cael ei gadarnhau ar ôl i chi fwcio. Efallai y bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno yn Llys Jiwbilî neu Ysgol Fusnes Sgeti. 

Bydd y cymhwyster yn cael ei asesu trwy brawf asesu amlddewis yn yr ystafell ddosbarth.

Os oes gan ddysgwr anghenion dysgu ychwanegol, bydd angen o leiaf 6 wythnos o rybudd arnom i roi’r prosesau gofynnol ar waith. 

Os ydych yn bwcio o fewn y cyfnod hwn o chwe wythnos a bod angen cymorth ychwanegol ar ddysgwr, a fyddech cystal ag ystyried bwcio dyddiad diweddarach neu rhowch wybod i ni wrth i chi fwcio.
 

Off