Skip to main content

Lluosi - Tipiau Costau Byw

Rhan-amser
Sketty Hall
Tair awr

E-bost: multiply@gcs.ac.uk 

Trosolwg

Funded by UK Government and Skills For Life Multiply

Prosiect Lluosi! Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion. Mae’r cyrsiau’n berthnasol i fywyd bob dydd ac maent yn hollol wahanol i’r hen wersi Mathemateg rydych chi’n eu cofio yn yr ysgol!
Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bob un ohonom.  Gyda chymaint o wybodaeth anghyson yn dod i’r fei, anodd yw ceisio dod o hyd i’r ffordd orau o ofalu am arian eich cartref. 

Mae banciau, cwmnïau ynni a siopau yn drysu pobl ar bwrpas trwy ddefnyddio termau mathemategol cymhleth a thrwy nodi rhifau anferth - gan fanteisio ar bryder presennol pobl mewn perthynas â mathemateg.  Fodd bynnag, gallwch ddilyn rhai camau syml iawn i ddefnyddio mathemateg yn effeithiol, gan arbed rhywfaint o arian.
Ymunwch â’n cwrs Tipiau Costau Byw (3 awr) i gymryd rheolaeth dros rifau!

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau: 
•    19+ oed
•    Byw neu’n gweithio yn Abertawe
Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.

Nid oes asesiad ar gyfer y cwrs hwn.

Gallwch ymgymryd â chyrsiau Lluosi eraill a chofrestru ar gyfer cyrsiau Lefel 1/2 Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif - gan ennill cymhwyster rhifedd i greu argraff ar gyflogwyr.