Skip to main content

Lluosi - Cwrs Gloywi TGAU Mathemateg

Rhan-amser
Sketty Hall
Dwy awr

E-bost: multiply@gcs.ac.uk 

Trosolwg

 

Prosiect Lluosi! Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion. Mae’r cyrsiau’n berthnasol i fywyd bob dydd ac maent yn hollol wahanol i’r hen wersi Mathemateg rydych chi’n eu cofio yn yr ysgol!

Dewch i’n cwrs gloywi TGAU Mathemateg a syrthiwch mewn cariad â mathemateg unwaith eto. Ydych chi ar fin dechrau yn y coleg neu’r brifysgol? Efallai nad ydych wedi astudio mathemateg ers tro byd ac yn dymuno helpu eich plant gyda’u gwaith cartref mathemateg (TGAU), neu efallai eich bod am sicrhau gyrfa newydd ac yn ansicr o ran ble i gychwyn.   Mae pob llwybr gyrfa/cwrs yn cynnwys elfennau o fathemateg.  

Mae ein cyrsiau yn gyfle perffaith i loywi eich technegau mathemategol, gan fynd i'r afael ag unrhyw fylchau mewn gwybodaeth ar hyd y ffordd - bydd ein tiwtor cyfeillgar yn eich arwain!

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau: 
•    19+ oed
•    Byw neu’n gweithio yn Abertawe
Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.

Nid oes asesiad ar gyfer y cwrs hwn.

Gallwch ymgymryd â chyrsiau Lluosi eraill a chofrestru ar gyfer cyrsiau Lefel 1/2 Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif - gan ennill cymhwyster rhifedd i greu argraff ar gyflogwyr.