Skip to main content

Estheteg Anfeddygol - Lefel 4

Rhan-amser
Lefel 4
Tycoch
30 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Trwy gydol y cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o egwyddorion ac arferion perthnasol mewn protocolau gofal croen uwch a diogel ar gyfer detholiad pwrpasol o arferion esthetig. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ymgynghori â chleientiaid, a rhoi cyngor ôl-ofal a gofal cartref penodol.

  • Egwyddorion ac arferion therapïau esthetig anfeddygol
  • Ymgynghoriad uwch ar gyfer therapïau esthetig anfeddygol
  • Gofal croen uwch ar gyfer therapïau esthetig anfeddygol
  • Darparu triniaethau pilio croen
  • Darparu triniaethau nodwyddo croen
  • Gwella pryd a gwedd gan ddefnyddio technegau dermaplanio.

Gwybodaeth allweddol

Anelir y cymhwyster hwn at ymarferwyr cymwysedig Lefel 3 sydd am ychwanegu amrywiaeth o driniaethau esthetig. Rhaid bod gan ddysgwyr gymhwyster therapi harddwch rheoleiddiedig Lefel 3 sy’n cynnwys therapi trydanol i’r wyneb, a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o anatomeg a ffisioleg.

Arholiadau theori ac ymarferol ar y diwedd ac aseiniadau ysgrifenedig.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol. 

Prif bwrpas y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant esthetig anfeddygol uwch gan ddarparu technegau nodwyddo croen, pilio croen a dermaplanio. Yn ogystal, gall dysgwyr ddewis datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach trwy gwblhau cymwysterau arbenigol atodol ar Lefel 4 mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

  • Amledd radio
  • Uwchsain.

Ffioedd y Cwrs: £650

Yn ogystal, rhaid i ddysgwyr brynu iwnifform fel rhan o’u cwrs.  
Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.

VTCT Certificate in Non-Medical Aesthetics L4
Cod y cwrs: K4C258 PTA
16/09/2024
Tycoch
34 weeks
Mon
9am - 5pm
£650
Lefel 4