Skip to main content

Tai Lefel 3 - Prentisiaeth Available in Welsh

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
Llys Jiwbilî
24 mis
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae ein prentisiaethau Tai wedi’u hariannu’n llawn, ac yn gyfle i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau allweddol er mwyn symud ymlaen yn eich gyrfa tai. Bydd y prentisiaethau yn rhoi modd i chi ennill yr arbenigedd technegol, y profiad ymarferol a’r set sgiliau ehangach sydd eu hangen i symud ymlaen yn eich rôl a’ch gyrfa o fewn y sector. Mae prentisiaeth Lefel 3 ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio o fewn y sector tai ac sydd â chontract cyflogaeth sy’n para cyfnod y prentisiaeth o leiaf.

Gellir defnyddio’r prentisiaethau i uwchsgilio staff newydd neu bresennol.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Addysgir y prentisiaethau trwy gymysgedd o weithdai a dysgu yn y gweithle, ar-lein neu wyneb yn wyneb. Gallwn ddarparu dull hyblyg i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr.

CIH Tystysgrif Lefel 3 mewn Tai – Unedau Gorfodol

  • Y system dai 
  • Sgiliau ymarfer proffesiynol 
  • Meddiannaeth, daliadaeth a gosod tai 
  • Rôl y gweithiwr cymorth 
  • Gwasanaethau digartrefedd ac atal digartrefedd 
  • Y Fframwaith Cyfreithiol ar gyfer Tai 
  • Y Fframwaith ar gyfer Gwybodaeth a Chyngor Tai 
  • Effaith cyflyrau tai ar iechyd

NVQ Tystysgrif Lefel 3 mewn Tai – Unedau Gorfodol

  • Hyrwyddo arferion diogel, moesegol a chynaliadwy ym maes tai
  • Cynllunio’ch datblygiad proffesiynol eich hun ym maes tai
  • Datblygu cysylltiadau cadarnhaol â cwsmeriaid a chydweithwyr wrth ddarparu gwasanaeth tai
  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth yn y sectorau Rheoli Cyfleusterau, Tai ac Eiddo

NVQ Tystysgrif Lefel 3 mewn Tai – Unedau Dewisol

Rhaid cwblhau o leiaf 14 credyd o’r unedau dewisol. Byddwch yn dewis o blith amrywiaeth o unedau dewisol i sicrhau eich bod yn cwmpasu’r sgiliau hynny sy’n fwyaf perthnasol i’ch rôl. Mae enghreifftiau’n cynnwys: 

  • Helpu cwsmeriaid i symud ac ymagrtrefu mewn amgylcheddau byw newydd
  • Delio â chwsmeriaid dros y ffôn
  • Darparu gwasanaeth rhentu tai
  • Rheoli eiddo gwag
  • Darparu cyngor ac arweiniad tai i gwsmeriaid
  • Sefydlu a rheoli cytundebau tenantiaeth, trwydded a lesddaliad
  • Arolygu cyflwr yr eiddo
  • Ymateb i geisiadau cwsmeriaid am atgyweiriadau

Bydd dwy elfen asesu i’r prentisiaethau:

CIH Tystysgrif mewn Tai

Bydd yn ofynnol i ddysgwyr gwblhau aseiniad ar ôl cwblhau pob modiwl er mwyn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth. Bydd asesiadau yn wahanaol ar gyfer pob uned, a byddant yn cynnwys gweithgareddau yn y dosbarth ac ar ôl y dosbarth hefyd. Bydd y gweithgareddau yn datblygu’ch sgiliau ysgrifennu academaidd, eich sgiliau TG, eich sgiliau cydweithredu a’ch sgiliau cyflwyniad personol. 

NVQ Tystysgrif mewn Tai

Wrth i chi symud trwy’r cymhwyster, byddwch yn adeiladu e-bortffolio o’r dystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol er mwyn dangos eich gwybodaeth a’ch cymhwysedd. Bydd dulliau asesu yn cynnwys cwestiynau ac atebion, arsylwadau, tystebau a mwy.