Rheoli Ystadau a Chyfleusterau Lefel 4 - Prentisiaeth
Trosolwg
Mae Rheoli Cyfleusterau yn addas ar gyfer amrywiaeth eang o ddysgwyr, o weithwyr newydd sy’n gobeithio ennill dealltwriaeth o reoli cyfleusterau a’r sector, i staff profiadol sydd am gael gwybodaeth ddyfnach o’r proffesiwn er mwyn symud ymlaen i rolau rheoli neu uwch.
Mae prentisiaeth Lefel 4 yn bennaf ar gyfer staff sy’n gweithio ar lefel rheoli gweithredol neu’n ystyried symud ymlaen i’r lefel hon. Bydd y brentisiaeth hon yn darparu gwybodaeth eang o’r proffesiwn a’r sgiliau i gwblhau tasgau cymhleth.
Gellir defnyddio’r prentisiaethau i recriwtio neu uwchsgilio staff presennol.
Mae’r brentisiaeth hon ar gyfer sefydliadau a dysgwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Os ydych chi’n chwilio am gwrs cyfatebol yn Lloegr, cliciwch yma.
Gwybodaeth allweddol
I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.
Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr dynodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn cwrdd â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.
Mae dull addysgu’r brentisiaeth yn hyblyg, a gellir ei deilwra i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr, gan gynnwys dull addysgu wyneb yn wyneb a rhithwir, neu ddull cyfunol.
Unedau gorfodol
- Deall rheoli pobl ym maes Rheoli Cyfleusterau
- Trosolwg o Reoli Cyfleusterau
- Deall gweithrediadau gwasanaethau cymorth Rheoli Cyfleusterau
- Deall strategaeth Rheoli Cyfleusterau
- Rheoli iechyd a diogelwch yn eich meysydd Rheoli Cyfleusterau eich hun
Unedau dewisol
Bydd y tiwtor/aseswr dynodedig yn trafod yr unedau dewisol gyda’r dysgwr a’r cyflogwr, a bydd yn pennu’r unedau addas yn dibynnu ar flaenoriaethau’r sefydliad ac anghenion datblygu’r dysgwr.
Rheoli Cyfleusterau Lefel 5 - Prentisiaeth
I gwblhau’r brentisiaeth hon yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd ag amrywiaeth o asesiadau. Bydd yr asesiadau yn dasgau seiliedig ar waith gan roi modd i’r dysgwr gymhwyso’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiadau a ddatblygwyd yn uniongyrchol i’w rôl.
Dan y fframwaith prentisiaeth, bydd disgwyl i ddysgwyr gwblhau’r canlynol hefyd:
- Sgiliau Hanfodol – Cymhwyso Rhif
- Sgiliau Hanfodol – Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol – Llythrennedd Digidol